Tân: Mam a dau o blant yn dianc o dŷ yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos tân mewn tŷ yn ardal Y Clâs, Abertawe.

Llwyddodd menyw 20 oed a dau o blant ifanc, 15 mis oed ac 11 mis oed, ddianc drwy ddrws cefn y tŷ ar Ffordd Creswell yn oriau man fore Llun.

Mae ditectifs yn amau fod y tân wedi'i gynnau'n fwriadol.

Mae drws ffrynt y tŷ a'r cyntedd wedi eu difrodi.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd dros dro Heddlu De Cymru Ricky Price: "Rydym yn apelio at unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Ffordd Creswell toc cyn 2am ddydd Llun i gysylltu â ni.

"Yn ffodus ni ledodd y fflamau a llwyddodd y preswylwyr i adael y tŷ heb gael eu hanafu."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.