Menyw yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

map o'r ardal

Cafodd menyw ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys ger y ffin â Lloegr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10:47am fore Mawrth wedi i gar a fan fod mewn gwrthdrawiad ar yr A4113.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Trefyclo a Brampton Bryan dros y ffin yn Sir Henffordd.

Cafodd criwiau o Drefyclo, Llanandras a Leintwardine eu gyrru yno a bu'n rhaid defnyddio offer arbennig i dorri'r fenyw yn rhydd o'i cherbyd.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, ond does dim manylion wedi eu cyhoeddi am ei chyflwr.