Gwahardd am bum wythnos

Andrew Hore (chwith) gyda'r prif hyfforddwr Steve Hansen a'r hyfforddwr cynorthwyol Ian Foster ar ôl y fuddugoliaeth dros Gymru. Image copyright Getty Images
Image caption Andrew Hore (chwith) gyda'r prif hyfforddwr Steve Hansen a'r hyfforddwr cynorthwyol Ian Foster ar ôl y fuddugoliaeth dros Gymru.

Mae bachwr Seland Newydd Andrew Hore wedi cael ei wahardd am bum wythnos am ei dacl anghyfreithlon ym munudau cyntaf buddugoliaeth Seland Newydd drios Gymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Roedd Bradley Davies yn anymwybodol am gyfnod ar ôl cael ei lorio gan Hore , a bu'n rhaid iddo adael y maes.

Mewn gwrandawiad disgyblu ym Mryste ddydd Mercher, dywedodd y swyddog barnwrol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol bod y weithred yn beryglus, ei fod wedi chwifio'i fraich yn fwriadol, gyda nerth sylweddol, a hynny o du ôl i Bradley Davies.

Ond roedd yr Athro Lorne Crerar o'r farn nad oedd Hore wedi bwriadu taro pen ei wrthwynebydd yn fwriadol.

Wrth gyhoeddi'r gosb, dywedodd ei fod wedi ystyried bod Hore wedi derbyn ei fod yn euog, ei fod yn edifarhau, a'i record wych o ran disgyblaeth.

Bydd y gwaharddiad yn parhau tan y 24 Chwefror 2013.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.