'Pryd cawn ni fynd adre'?'

Llanelwy
Image caption Roedd criw Sefydliad Bad Achub yn brysur yn Llanelwy

Mae cannoedd o bobl yn aros am newyddion pryd y cawn nhw fynd adre' wedi llifogydd difrifol ddydd Mawrth.

Roedd y trigolion yn siroedd Dinbych a Chonwy wedi treulio noson oddi cartref.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi cadarnhau mai Margaret Hughes, 91 oed o Tai'r Felin, Llanelwy oedd y wraig gafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ yn y ddinas ddydd Mercher. Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener.

Mae manylion rhybuddion Asiantaeth yr Amgylchedd i gyd ar wefan yr asiantaeth

Fore Mercher roedd mudiadau cymunedol yn cynnal cyfarfod brys yn Llanelwy.

Bydd cronfa elusen yn cael ei sefydlu er mwyn helpu dioddefwyr a chyngor y ddinas fydd yn trefnu'r elusen.

Dywedodd y Maer, y Cynghorydd John Roberts, fod angen cydlynu'r ymateb i'r llifogydd a thrafod sut i helpu'r rhai oedd wedi gorfod gadael eu tai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Clirio'r llanast a chyfri'r gost

"Mae llwyth o bobl wedi cynnig help a chefnogaeth.," meddai.

Mae'r A5 rhwng Corwen a'r Ddwyryd wedi ailagor ond roedd yr A525 rhwng Llanelwy a Rhuddlan ar gau a'r A525 yn Rhuthun rhwng Lôn Parcwr a Stad Glasdir.

Erbyn hyn mae Cyffordd 27 yr A55 wedi cau a Lôn Sarn ar gau rhwng Pengwern ac Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, Ffordd Isaf Dinbych, Llanelwy, a'r Lôn Las yng Nghorwen.

Yng Nghonwy mae'r A548 rhwng Llanrwst a Llangernyw ar gau wedi tirlithriad ac yng Ngwynedd mae'r B4354 wedi cau rhwng Y Ffor a Boduan am fod coed wedi cwympo.

Yn Wrecsam mae'r A525 wedi cau oherwydd llifogydd rhwng Marchwiel ac Eglwys-Croes.

Bydd gwasanaethau trên llawn ar arfordir y gogledd ond mae amharu ar y gwasanaeth ar Ynys Môn am fod dŵr yn cael ei bympio oddi ar y cledrau yn Y Gaerwen.

Mae llifogydd ar y lein rhwng Llanrwst a'r Blaenau a gwasnaeth bws ar gael.

Dywedodd cyflwynydd tywydd Radio Cymru, Rhian Haf: "Mi fydd hi'n sych ar y cyfan weddill y dydd, y cymylau'n clirio'n raddol a fydd 'na rywfaint o heulwen y prynhawn 'ma, yn enwedig yn y gorllewin.

'Eitha' oer'

"Mi fydd y gwynt yn llawer ysgafnach ond yn dal i chwythu o'r gogledd. Felly mi fydd hi'n dal yn eitha' oer - y tymheredd ddim uwch nag wyth neu naw selsiws.

"Yna bydd hi'n noson glir ac mi fydd hi'n rhewi dros rhan helaeth y wlad.

"Mi fydd yfory'n sych ac yn eitha' braf eto, heblaw am ambell gawod ar hyd glannau'r gorllewin, rhwng Ynys Mon a Sir Benfro ond yn dal yn oer ac yn rhewi dros nos."

Bydd Ysgol Glan Clwyd yn ailagor ddydd Iau.

Straeon perthnasol