Damwain: Car yn taro chwe cerbyd

Mae dyn 79 oed yn yr ysbyty wedi i'w gar daro chwe cerbyd yng Nglyn Ebwy ddydd Mercher.

Roedd y cerbydau wedi eu parcio pan gafon nhw eu taro gan gar Mercedes arian gyriant pedair olwyn.

Cafodd y dyn driniaeth am anafiadau i'w ben a'i law yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful.

Chafodd neb arall ei anafu.