Tân mewn bwthyn yn y Canolbarth

Bu tua 20 o ddiffoddwyr tân yn delio â thân mewn bwthyn ym Mhowys nos Fercher.

Cafodd criwiau o'r Trallwng, Llanfyllin a Llanfaircaereinion eu galw i Lanerfyl tua 7pm.

Dechreuodd y tan ar lawr cynta'r adeilad. Chafodd neb niwed.

Dyw Gwasanaeth Canolbarth a'r Gorllewin ddim yn gwybod eto sut dechreuodd y tân.