Jenkins yn ôl yn y rheng flaen

Prop Cymru Gethin Jenkins Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r prop Gethin Jenkins yn un o bedwar newid yn nhîm Cymru

Mae'r prop Gethin Jenkins wedi ei ddewis i wynebu Awstralia yng ngêm ola cyfres yr hydref.

Mae'n un o bedwar newydd i'r dim gollodd yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm yr wythnos diwetha.

Yn ymuno ag ef yn y rheng flaen mae'r prop Scott Andrews.

Mae'r clo Ian Evans yn ol yn y tîm gan bod Bradley Davies wedi ei anafu.

Bydd Aaaron Shingler yn flaenasgellwr, gyda Ryan Jones yn symud i'r fainc.

Detholiaid

Er gwaetha perfformiadau siomedig diweddar, Rhys Priestland fydd y maswr

Yn ogystal â'r Crysau Duon mae Cymru wedi colli yn erbyn Ariannin a Samoa yn y gyfres.

Mae'n rhaid i Gymru osgoi colli er mwyn aros ymhlith yr wyth tîm uchaf yn rhestr y detholiaid. Dylai hynny'n sicrhau eu bod yn wynebu grŵp haws yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2015.

Mae Awstralia wedi curo Cymru bedair gwaith yn yr 13 mis diwethaf.

Maen nhw'n disgwyl i'r capten David Pocock chwarae ddydd Sadwrn ond mae'r prop Sitalekitimani wedi ei wahardd.

Cymru: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams; Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Scott Andrews, Ian Evans, Luke Charteris, Aaron Shingler, Sam Warburton (capt), Toby Faletau.

Eilyddion : Ken Owens, Ryan Bevington, Samson Lee, Ryan Jones, Justin Tipuric, Tavis Knoyle, Dan Biggar, Scott Williams.