David Jones yn cwrdd â'r dioddefwyr

Llanelwy
Image caption Llanast: Y sgileffeithau yn Llanelwy

Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi cwrdd â dioddefwyr llifogydd wrth i nifer wynebu noson arall oddi cartre'.

Am oriau mae rhai sy' wedi mynd adre' yn Sir Ddinbych a Chonwy wedi bod yn symud carpedi a chelfi oedd yn llawn mwd.

Ddydd Mercher pan oedd Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn y gogledd dywedodd fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio i achos y llifogydd.

Yn Llanelwy mae Mark Young wedi sefydlu rhwydwaith Facebook er mwyn helpu dioddefwyr.

'Cyfrannu'

"Mae unigolion a chwmnïau wedi cynnig bwyd, cerbydau ac ati," meddai, " a theuluoedd wedi dweud eu bod am gynnig dillad.

"Dywedodd llawer eu bod am gyfrannu arian."

Roedd y broblem yn anferth, meddai, ond bod moddc helpu os oedden nhw'n drefnus ac yn cydweithio â'r cyngor.

Mae'r Gweinidog Amglychedd, John Griffiths, wedi mynd i Ruthun wrth i gynghorau Sir Ddinbych a Chonwy gynnig help a chefnogaeth mewn rhai ardaloedd.

Roedd stad Glasdir yn Rhuthun ymhlith yr ardaloedd o dan ddŵr a dywedodd rhai trigolion eu bod wedi cael sicrwydd na fyddai llifogydd ar y stad.

Y datblygwr Taylor Wimpey brynodd y tir oddi wrth Lywodraeth Cymru a dywedodd y cwmni eu bod wedi cael gwybod bod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y safle.

Sicrwydd

Mae rhai wedi dweud eu bod yn gwybod bod yr ardal yn un allai ddiodde' llifogydd ond eu bod wedi cael sicrwydd bod yr amddiffynfeydd yn eu lle.

Ar y Post Cyntaf fore Iau dywedodd Huw Hilditch-Roberts, un o gynghorwyr sir Rhuthun, mai'r flaenoriaeth ar hyn o bryd oedd sicrhau bod yna gartrefi dros y Nadolig i bobl sydd wedi gorfod gadael eu tai yn Glasdir.

"Mae'n beryg iawn lluchio mwd o gwmpas. Mae'n bwysig bod y ffeithiau i gyd ganddom ni. Ond yr hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd ydi helpu'r bobl sydd wedi diodde."

Image copyright Brendon Williams
Image caption Diffoddwyr yn pympio dŵr o stad Glasdir yn Rhuthun

Dywedodd llefarydd ar ran Taylor Wimpey: "Fe gawsom ninnau hefyd sicrwydd y byddai'r amddiffynfeydd, a gafodd eu cynllunio a'u gweithredu cyn i ni brynu'r safle, yn gwneud eu gwaith.

"Rydym yn deall pryderon ein cwsmeriaid yn iawn ac yn disgwyl ymchwiliad llawn gyda'r holl awdurdodau allweddol i ddarganfod pam na wnaeth yr amddiffynfeydd warchod y safle rhag y llifogydd.

"Rydym yn awyddus i fod yn rhan o'r ymchwiliad ac fe fyddwn yn cydweithio'n llawn gyda'r awdurdodau er mwyn cael ateb cyflym."

Ymgynghori

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod nhw'n edrych ar y mater gan eu bod nhw wedi chwarae rôl wrth gynllunio'r stad.

Pan gafodd caniatâd cynllunio ei roi roedd y ddogfen oedd yn amlinellu'r amodau yn dweud na ddylid "codi cartrefi nac adeiladau eraill y bydd pobl yn eu defnyddio ar y safle tan y bydd yr awdurdod cynllunio lleol, yn unol ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig bod y mesurau perthnasol wedi cael eu cwblhau'n ddigonol".

Dywedodd yr asiantaeth eu bod wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol ar faterion llifogydd yn ystod ceisiadau cynllunio a'u bod yn disgwyl i gynghorau ddilyn eu cyngor wrth wneud penderfyniadau.

"Byddai'r awdurdod lleol wedyn yn gosod amodau yn eu cytundeb gyda'r contractwyr i leihau unrhyw risg ac felly osgoi llifogydd ar unrhyw ddatblygiad newydd.

"Os ydym yn credu bod risg annerbyniol ar unrhyw ddatblygiad fe fyddwn yn cyfeirio'r mater i Lywodraeth Cymru fel bod modd galw'r cais i mewn."

Straeon perthnasol