Car mewn siop: Un wedi'i hanafu

Car yn siop Subway Aberdâr Image copyright Tomos Surrey
Image caption Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ond y gred yw nad yw wedi dioddef anafiadau difrifol

Cafodd menyw ei hanafu ar ôl i gar yrru trwy ffenest siop frechdanau yn Aberdâr.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y fenyw y tu mewn i gangen siop Subway pan aeth y car drwy'r ffenest toc cyn 3:30pm ddydd Iau.

Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ond y gred yw nad yw wedi dioddef anafiadau difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod tri cherbyd arall wedi cael eu difrodi yn ystod y digwyddiad, ac fe gredir mai damwain ydoedd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.