Cyfle olaf i dîm rygbi Cymru

Capten Cymru Sam Warburton yn ymarfer Image copyright Getty Images
Image caption Capten Cymru Sam Warburton yn ymarfer

Gallai blwyddyn a ddechreuodd mor addawol orffen gydag ergyd enfawr i obeithion rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2015.

Fe fyddai colli seithfed gêm yn olynol yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn yn golygu y byddai Cymru ymysg y trydydd detholion ar gyfer y gystadleuaeth.

Er mwyn osgoi hynny, rhaid i Gymru guro Awstralia - rhywbeth dydyn nhw heb lwyddo i wneud ar saith achlysur dros y pedair blynedd diwethaf.

Pe na bai hynny'n ddigon o her, mae'n rhaid gwneud hynny gyda nifer o anafiadau.

Hyder

Ond er colli i Ariannin a Samoa yng ngemau cyntaf cyfres yr hydref, fe ddangosodd Cymru rhywfaint o'r gallu a ddaeth â'r Gamp Lawn i dîm Warren Gatland yn gynharach yn y flwyddyn, gan roi rhywfaint o hyder iddynt.

Mae'r ddau dîm yn nabod ei gilydd yn dda - dyma fydd y chweched gornest rhwng y ddau mewn ychydig dros flwyddyn - ac er bod Awstralia wedi ennill y pum gêm flaenorol, fe gafodd Cymru gyfleoedd.

Yn yr ail brawf ym Melbourne dros yr haf roedd Cymru ar y blaen pan ddaeth yr 80 munud i ben, ond fe sgoriodd Awstralia gôl gosb hwyr iawn i gipio'r fuddugoliaeth.

Enillodd Awstralia'r trydydd prawf o bwynt yn unig.

Cyn cyfres yr hydref, gobaith Cymru oedd gorffen y flwyddyn ymysg y pedwar detholyn uchaf. Colli ddydd Sadwrn ac fe fyddan nhw'n nawfed, gan sicrhau y byddan nhw yn yr un grŵp â dau o'r 'mawrion' yng Nghwpan y Byd pan ddaw'r enwau o'r het ddydd Llun nesaf.

Cymru

  • Mae Cymru wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf - y rhediad gwaethaf i'r tîm cenedlaethol ers 2003;
  • Nid yw Cymru wedi curo un o wledydd Pencampwriaeth y Tair Gwlad ers eu buddugoliaeth o 21-18 yn erbyn Awstralia yn Nhachwedd 2008;
  • Bydd Gethin Jenkins yn ennill cap rhif 94, gan ei roi'n gyfartal â Colin Charvis ac yn bedwerydd ar rhestr enillwyr y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru.

Awstralia

  • Mae Awstralia wedi sgorio 14 cais mewn 14 gêm brawf hyd yma eleni, a dim ond 4 yn y chwe gêm olaf;
  • Dim ond un o'u pum gêm ddiwethaf y mae Awstralia wedi colli;
  • Bydd Nathan Sharpe yn ennill cap rhif 116 yn ei gêm olaf dros Awstralia - dim ond George Gregan (139) sydd wedi ennill mwy.

Y TIMAU

Cymru: 15-Leigh Halfpenny, 14-Alex Cuthbert, 13-Jonathan Davies, 12-Jamie Roberts, 11-Liam Williams, 10-Rhys Priestland, 9-Mike Phillips; 1-Gethin Jenkin, 2-Matthew Rees, 3-Scott Andrew, 4-Ian Evans, 5-Luke Charteris, 6-Aaron Shingler, 7-Sam Warburton (capten), 8-Toby Faletau.

Eilyddion: 16-Ken Owens, 17-Ryan Bevington, 18-Samson Lee, 19-Ryan Jones, 20-Justin Tipuric, 21-Tavis Knoyle, 22-Dan Biggar, 23-Scott Williams.

Awstralia: 15-Berrick Barnes, 14-Nick Cummins, 13-Adam Ashley-Cooper, 12-Ben Tapuai, 11-Drew Mitchell, 10-Kurtley Beale, 9-Nick Phipps; 1-Benn Robinson, 2-Tatafu Polota-Nau, 3-Ben Alexander, 4-Kane Douglas, 5-Nathan Sharpe (capten), 6-Scott Higgingbotham, 7-David Pocock, 8-Wycliff Pau.

Eilyddion: 16-Stephen Moore, 17-James Slipper, 18-Sekope Kepu, 19-David Dennis, 20-Michael Hooper, 21-Brendan McKibbin, 22-Mike Harris, 23-Digby Ioane.

Straeon perthnasol