Cyflenwad dŵr: Ysgolion ar gau

tap Image copyright Getty Images
Image caption Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra

Mae chwe ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd wedi cau ar ôl toriad yn y cyflenwad dŵr yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Dŵr Cymru fod hyn yn effeithio ar gyflenwadau yn Llwynypia, Tonypandy, Trealaw, Penygraig, Llwyncelyn, y Porth, Beddau a Thonyrefail.

Cafodd y disgyblion eu hanfon adref fore Gwener.

Dywedodd Kevin Bateman o'r cwmni: "Mae pibell fawr wedi torri ym Mhontypridd ar ôl glaw trwm.

"Rydyn ni'n trwsio ar frys ac efallai y bydd trigolion yn profi cyflenwad toredig a lliw'r dŵr yn tywyllu dros dro."

Mae Dŵr Cymru yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.

Dylai unrhyw un sy' angen help ffonio 0800 052 0130.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.