Cwest: Menyw wedi boddi yn ei chartref yn Llanelwy

Margaret Hughes Image copyright North Wales Police
Image caption Roedd gan Margaret Hughes air caredig i'w chymdogion bob tro, meddai cymydog

Mae cwest wedi clywed bod y fenyw gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn ystod y llifogydd yn Llanelwy wedi boddi.

Cafwyd hyd i gorff Margaret Hughes gan dimau achub wrth iddyn nhw helpu pobl i adael eu cartrefi yn y ddinas ddydd Mawrth.

Fe gafodd cwest i'w marwolaeth ei agor a'i ohirio ddydd Gwener gan grwner dros dro canol gogledd Cymru, John Gittins.

Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem patholegydd y Swyddfa Gartref Dr Brian Rodgers yn dangos mai achos ei marwolaeth oedd iddi foddi.

Fe fyddai wedi dathlu ei phen-blwydd yn 92 oed ddydd Iau.

Yn gynharach yn yr wythnos, fe roddwyd teyrngedau i Mrs Hughes gan ei theulu.

Dywedodd ei chymydog Mandy Williams fod Mrs Hughes bob tro â gair caredig i'w chymdogion.

"Roedd yn edrych ymlaen at fynd i siopa ar gyfer ei phen-blwydd," meddai.

Straeon perthnasol