'Neb ar fai' am farwolaeth gyrrwr rali

Gareth Roberts
Lladdwyd Gareth Roberts mewn ras yn Yr Eidal ym mis Mehefin

Mae tad un o sêr y byd ralio fu farw mewn damwain yn yr Eidal wedi dweud nad oedd unrhyw un ar fai am ei farwolaeth.

Roedd Gareth Roberts yn gyd-yrrwr car Peugeot 207 oedd yn cael ei yrru gan Craig Breen yn ras y Targa Florio ar ynys Sicily ym mis Mehefin.

Bu farw'r dyn 24 oed o Gaerfyrddin pan darodd y car yn erbyn clwyd ddiogelwch ar ddarn cyflym o'r cwrs.

Yn Llanelli clywodd y cwest, gofnododd reithfarn o farwolaeth ddamweiniol, fod y Cymro'n un o sêr y dyfodol.

'Anghyffredin iawn'

Ar ôl gadael ysgol yn 16 oed fe sefydlodd ei fusnes trydanwr ei hun tra'n cystadlu mewn rasys ar draws y byd.

Wedi iddo ennill Academi Pencampwriaeth Ralio'r Byd yn 2011 fe drodd yn broffesiynol.

Dywedodd ei dad Michael yn y cwest: "Allwch chi ddim beio'r gamp a dydw i ddim yn beio Craig.

"Roedd yn ddamwain anghyffredin iawn.

"Chwarae teg i Craig, mae e wedi cario llawer ar ei ysgwyddau ac mae newydd ennill Pencampwriaeth Byd yr SWRC unwaith eto.

'Parhau'

"Rwy'n gwybod y byddai Gareth am iddo barhau yn y gamp.

"Y peth anoddaf i dderbyn yw fy mod wedi gweld Gareth a Craig yn goroesi damweiniau erchyll - ddeg gwaith yn waeth - a heb farc arnyn nhw.

"Ond bu farw wrth wneud yr hyn yr oedd yn caru ei wneud - roedd yn byw ei freuddwyd, ac yn derbyn y risg."