Anaf: Evans allan o gêm Awstralia

Ian Evans Image copyright Huw Evans picture agency

Daeth ergyd arall i obeithion tîm rygbi Cymru cyn y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y bydd clo Ian Evans yn absennol wedi iddo fethu prawf ffitrwydd yn dilyn anaf i'w ben-glin brynhawn dydd Gwener.

Bydd clo'r Gleision Lou Reed, a gafodd ei alw i mewn i'r garfan hyfforddi yn ystod yr wythnos, yn cymryd lle Evans yn y tîm.

Bydd gweddill y garfan o 23 yn aros yr un fath.

Mae'n rhaid i Gymru ennill y gêm er mwyn bod ymhlith yr ail grŵp o ddetholion cyn i'r enwau ddod o'r het ar gyfer grwpiau Cwpan y Byd 2015.

Straeon perthnasol