Casnewydd 3-1 Gateshead

Image copyright Other

Casnewydd 3-1 Gateshead

Mae Casnewydd wedi dychwelyd i frig Uwchgynghrair Blue Square Bet am y tro wedi iddyn nhw guro Gateshead ar faes Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Tîm Justin Edinburgh reolodd y meddiant, ac fe gawson nhw fwy o ergydion at y gôl na'i gwrthwynebwyr.

Er hynny, dim ond un gôl ddaeth yn yr hanner cyntaf, gyda Christian Jolley'n sgorio i gornel isaf y rhwyd wedi 38 munud.

Fe wellodd pethau o safbwynt y sgôr mewn tri munud llawn digwyddiad yn yr ail hanner.

Wedi 53 munud fe sgoriodd Michael Smith yr ail i'r Alltudion, ac yn atri munud yn ddiweddarach fe ychwanegodd Jolley ei ail yn y gêm i roi mantais o 3-0 i Gasnewydd.

Fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl iddi, ac wedi 70 munud daeth gwobr am hynny gyda gôl i Yemi Odubade.

Cododd Casnewydd eu gêm, a nhw orffennodd gryfaf, gan gipio'r pwyntiau llawn, a'u lle ar frig y tabl o leiaf tan i Grimsby ymweld ag Ebbsfleet yn ddiweddarach.

Fe allai Wrecsam hefyd godi i'r brig os fyddan nhw'n trechu Kidderminster brynhawn Sadwrn.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.CASNEWYDD 20 16 39
2. Grimsby 20 18 36
3. WRECSAM 19 17 36
4. Forest Green 19 13 34
5. Dartford 19 10 34

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.