Awdur: 'Rhaid ariannu'

Jon Gower
Enillodd Jon Gower wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am ei nofel Y Storïwr

Mae'n rhaid i gynllun i ailargraffu clasuron llenyddiaeth Gymraeg sydd wedi mynd allan o brint barhau i dderbyn arian cyhoeddus, yn ôl enillydd Llyfr y Flwyddyn Jon Gower.

Mae cyfres Llyfrgell Cymru, sydd â 34 o lyfrau wedi cael eu cyhoeddi gan Parthian, wedi gwerthu 50,000 o gopïau ers iddi gael ei lansio yn 2006.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £50,000 y flwyddyn ar y gyfres drwy'r Cyngor Llyfrau.

Dywed rhai y dylid tynnu'r arian yn ôl o'r cynllun, ond mae gweinidogion yn dadlau bod y gyfres yn "ffordd wych o werthu'r genedl i'r byd".

'Dadl Philistaidd'

Mae Jon Gower, enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am ei nofel Y Storïwr, yn y broses o ddarllen yr holl lyfrau.

Dywedodd wrth raglen The Sunday Politics ar BBC Cymru: "Rydym yn gwarchod cestyll, ac mae amgueddfeydd yn gwarchod henebion. Henebion marw yw llyfrau oni bai eu bod yn cael eu darllen.

"Mewn gwlad ble mae trafferthion gyda llythrennedd, mae cael llyfrau da ac anogaeth i ddarllen llyfrau i'r fath raddau'n beth da.

"Mae yna ddadl Philistaidd sy'n ceisio dweud mai mater o lyfrau yn erbyn ysbytai yw hyn.

"Ond mewn gwlad fel Cymru sy'n aeddfedu'n wleidyddol, rhaid cael lle i'r cyfan."

Heclo

Mewn anerchiad yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, roedd y nofelydd Julian Ruck yn feirniadol o'r arian cyhoeddus sy'n mynd i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Fe gafodd ei heclo gan rai yn y gynulleidfa.

Daeth Gŵyl Lyfrau'r awdur - Kidwell-e - i ben yn gynnar yn gynharach eleni ar ôl methu denu digon o ymwelwyr, a dywedodd ei fod yn cefnogi arian i'r celfyddydau ac i lyfrau Cymraeg, ond nid ar gyfer cyhoeddi llyfrau yn yr iaith Saesneg.

Dywedodd wrth The Sunday Politics: "Lle mae'r craffu? Lle mae'r atebolrwydd? Lle mae'r person annibynnol i fynd i mewn a gofyn 'Beth ydych chi'n ei wneud?'.

"Dyma eich arian chi, fy arian i, arian y trethdalwr. Beth maen nhw'n ei wneud?"

Dywedodd myfyrwyr ôl-radd llenyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe bod y gyfres wedi bod yn adnodd hanfodol iddyn nhw, gan fod nifer o'r cyfrolau yn anodd neu'n amhosib cael gafael arnyn nhw.

Cadw treftadaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd cyfres Llyfrgell Cymru ei lansio yn 2006 yn dilyn adolygiad y Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chwaraeon i ysgrifennu iaith Saesneg yng Nghymru.

"Roedd yr adolygiad yn galw am gael gweithiau â phwysigrwydd diwylliannol yr 20fed ganrif yn Saesneg i gael eu hailargraffu, ac i fod ar gael i ystod eang o ddarllenwyr, yn enwedig rhai ifanc.

"Mae'r gwaith i wneud llyfrau print traddodiadol ac e-lyfrau ar gael i gynulleidfa mor eang â phosib wedi parhau, ac mae'r casgliad gwreiddiol o 5 llyfr bellach yn 34.

"Mae datblygu'r e-lyfr wedi golygu bod y llyfrau ar gael i gynulleidfa eang iawn ar draws y byd, ac yn dod â llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg i'r cyfnod modern.

"Mae Llyfrgell Cymru yn ffordd wych o werthu ein cenedl i'r byd trwy lenyddiaeth, ac yn cadw ein treftadaeth lenyddol yn fyw i'r cenhedlaethau i ddod."