Casnewydd ar y brig

Image copyright Other

Casnewydd 3-1 Gateshead

Mae Casnewydd wedi dychwelyd i frig Uwchgynghrair Blue Square Bet am y tro wedi iddyn nhw guro Gateshead ar faes Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Tîm Justin Edinburgh reolodd y meddiant, ac fe gawson nhw fwy o ergydion at y gôl na'i gwrthwynebwyr.

Er hynny, dim ond un gôl ddaeth yn yr hanner cyntaf, gyda Christian Jolley'n sgorio i gornel isaf y rhwyd wedi 38 munud.

Fe wellodd pethau o safbwynt y sgôr mewn tri munud llawn digwyddiad yn yr ail hanner.

Wedi 53 munud fe sgoriodd Michael Smith yr ail i'r Alltudion, ac yn atri munud yn ddiweddarach fe ychwanegodd Jolley ei ail yn y gêm i roi mantais o 3-0 i Gasnewydd.

Fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl iddi, ac wedi 70 munud daeth gwobr am hynny gyda gôl i Yemi Odubade.

Image copyright Other

Kidderminster 2-0 Wrecsam

Fe allai Wrecsam fod wedi mynd yn gyfartal ar bwyntiau gyda Chasnewydd, ond colli wnaeth y Dreigiau ar daith i Kidderminster.

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 57 munud gyda Jamille Matt yn sgorio.

Er i Wrecsam frwydro'n galed wedi hynny, sgoriodd Kidderminster un arall yn y funud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth sy'n gweld Wrecsam yn disgyn i bedwerydd yn y tabl.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.CASNEWYDD 20 16 39
2. Grimsby 20 18 37
3. Forest Green 20 14 37
4. WRECSAM 20 15 36
5. Dartford 20 9 33

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.