1,200 yn dal heb ddŵr yn y Rhondda

Domestic water tap Image copyright Getty Images

Dywed Dŵr Cymru bod 1,200 o gartrefi yn y Rhondda yn dal heb gyflenwad ar ôl dau ddiwrnod.

Yn wreiddiol roedd 7,000 o gartrefi yn yr ardal wedi colli cyflenwad wedi i brif bibell fyrstio ym Mhontypridd.

Bu'r cwmni yn gweithio dros nos Wener i geisio trwsio'r bibell, ac fe gafodd y mwyafrif eu cyflenwad yn ôl ddydd Sadwrn.

Ond dyw'r cyflenwad heb gael ei adfer i rai ardaloedd erbyn dydd Sul.

Dywedodd Kevin Bateman o Dŵr Cymru: "Rydym wedi gweithio drwy'r nos i geisio adfer y cyflenwad i gartrefi yn y Rhondda.

"Er hynny, rydym yn dal i geisio adfer y cyflenwad i tua 1,200 o gartrefi yng Nghwm Clydach a Blaenclydach.

"Yn y cyfamser rydym yn darparu dŵr potel i bob un o'r cartrefi yn yr ardaloedd dan sylw.

"Rydym hefyd wedi gosod ffynhonnau yn yr ardaloedd, ac mae dŵr potel ar gael mewn safleoedd yn yr ardaloedd.

"Byddwn yn annog unrhyw un o'n cwsmeriaid bregus, neu deuluoedd gyda phlant ifanc i gysylltu â ni ar 0800 052 0130 os oes ganddynt anghenion ychwanegol.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro i'r cwsmeriaid sydd wedi diodde' oherwydd colli'r cyflenwad, ac yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i adfer y sefyllfa.

Roedden nhw'n pwysleisio hefyd na fydd hyn yn effeithio ar sustemau gwres canolog.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.