Cymru'n herio Lloegr ac Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015

Seland Newydd Image copyright Getty Images
Image caption Seland Newydd ydi deiliaid y cwpan ar ôl y bencampwriaeth yno yn 2011

Fe fydd Cymru'n wynebu Lloegr ag Awstralia yng Ngrŵp A Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

Fe fyddan nhw hefyd yn wynebu dau dîm arall sydd heb sicrhau eu lle eto, un o Ynysoedd y De, Fiji fwy na thebyg, ac un o dimau y rownd ail gyfle, o bosib Uruguay.

Yng Ngrŵp B mi fydd De Affrica'n chwarae yn erbyn Samoa a'r Alban.

Mae deiliaid y Cwpan, Seland Newydd yng Ngrŵp C gyda'r Ariannin a Tonga ac fe fydd Ffrainc, Iwerddon a'r Eidal yng Ngrŵp D.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni yn oriel gelf y Tate Modern yn Llundain.

Fe fydd y bencampwriaeth, sy'n cael ei chynnal gan Loegr, yn cychwyn ar Fedi 18, 2015 a bydd y rownd derfynol yn Twickenham ar Hydref 31.

Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Lloegr ddwywaith yn y gystadlaeaeth, bob tro yn y rownd go-gynderfynol.

Cymru enillodd 16-3 yn y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 gyda Lloegr yn ennill 16-12 yn 2003, y flwyddyn enillodd y crysau gwyn y bencampwriaeth.

CWPAN RYGBI'R BYD 2015
GRŴP A GRŴP B GRŴP C GRŴP D
Awstralia De Affrica Seland Newydd Ffrainc
Lloegr Samoa Yr Ariannin Iwerddon
CYMRU Yr Alban Tonga Yr Eidal
Ynysoedd y De 1 Asia 1 Ewrop 1 America 1
Enillydd gemau ail gyfle America 2 Affrica 1 Ewrop 2

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.