Ege: Rheithgor yn ystyried eu dyfarnaid

Yaseen Ali Ege Image copyright other
Image caption Bu farw Yaseen Ali Ege ym mis Gorffennaf 2010

Mae'r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad yn achos mam o Gaerdydd sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab saith oed.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Sara Ege, 33 oed, wedi gwadu'r cyhuddiad a honni mai ei gŵr gurodd y mab i farwolaeth am nad oedd wedi dysgu'r Coran.

Mae ei gŵr 38 oed, Yousef Ali Ege, wedi gwadu caniatáu marwolaeth Yaseen Ali Ege drwy fethu â'i amddiffyn.

Cafodd y corff ei ddarganfod wedi tân yng nghartre'r teulu yn ardal Treganna, Caerdydd, yn 2010.

Dangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi cael ei guro cyn i'w gorff gael ei roi ar dân.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.