Hufenfa De Arfon yn ennill cytundeb gwerth £50m

  • 4 Rhagfyr 2012

Mae Hufenfa De Arfon yng Ngwynedd wedi ennill cytundeb gwerth £50 miliwn gydag un o brif gyflenwyr caws Prydain.

Bydd y cytundeb gyda chwmni Adams Foods yn dechrau ym mis Ionawr.

Oherwydd hynny mae'r hufenfa'n gobeithio adeiladu cyfleusterau cynhyrchu ar gost o £10 miliwn ar eu safle yn Chwilog erbyn 2016.

Mae'r hufenfa yn cyflogi cyfanswm o 110 o weithwyr a hi yw un o gyflogwyr mwyaf Llŷn ac Eifionydd.

'Cytundeb tymor hir'

Yn gynharach eleni cyhoeddodd yr hufenfa y byddai'r busnes llaeth yn dod i ben wrth ganolbwyntio ar gynhyrchu caws a chynnyrch llaeth eraill.

Llaeth mewn oergell
Bydd cyflenwi llaeth yn lleol yn cael ei drosglwyddo i gwmni arall ddydd Sul, Rhagfyr 9.

Bydd cyflenwi llaeth yn lleol yn cael ei drosglwyddo i gwmni Cotteswold Dairy ddydd Sul, Rhagfyr 9.

Bydd y cwmni hwnnw'n dal i gyflenwi llaeth Cymreig o dan enw "Llaeth y Ddraig" Hufenfa De Arfon.

Dywedodd Alan Wyn Jones, cyfarwyddwr rheolwr yr hufenfa: "Rydan ni ar ben ein digon yn diogelu'r cytundeb tymor hir ag Adams Foods.

"Mi fydd y cytundeb yn werth £50 miliwn dros dair blynedd ... a chaws Dragon yw brand caws mwyaf poblogaidd Nghymru, yn werth dros £3 miliwn o ran gwerthiant."

Ychwanegodd fod y penderfyniad i ddod â phrosesu llaeth i ben yn anodd.

"Mae hon wedi bod yn rhan fach o'n busnes ond roedd gennym gyfrifoldeb cymdeithasol i'r gymuned leol."

Mae'r hufenfa yn fudiad cydweithredol a chanddo 125 o ffermwyr yn aelodau.