Achos Ege: Mam yn euog

Sara Ege Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Sara Ege wedi gwadu llofruddiaeth

Yn Llys y Goron Caerdydd mae mam o Gaerdydd wedi ei chael yn euog o lofruddio ei mab saith oed.

Roedd Sara Ege, 33 oed, wedi gwadu'r cyhuddiad a honni mai ei gŵr gurodd Yaseen Ali Ege i farwolaeth am nad oedd wedi dysgu'r Coran.

Cafwyd ei gŵr 38 oed, Yousef Ali Ege, yn ddieuog o ganiatáu marwolaeth eu mab drwy fethu â'i amddiffyn.

Cafodd Sara Ege hefyd ei chael yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd corff Yaseen Ali Ege ei ddarganfod wedi tân yng nghartre'r teulu yn ardal Treganna, Caerdydd, yn 2010.

Dangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi cael ei guro cyn i'w gorff gael ei roi ar dân.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.