Ymgyrch i hybu ieithoedd a gwyddoniaeth mewn ysgolion

Plant ysgol
Mae'r ymgyrch yn annog plant i astudio ieithoedd a phynciau gwyddoniaeth

Mae dau fudiad sy'n ceisio hybu ieithoedd modern a phynciau gwyddonol drwy ddefnyddio 'llysgenhadon" ar fin mynd i ysgolion y gogledd-ddwyrain.

Fel rheol mae'r "llysgenhadon" o fyd busnes ac yn ymweld ag ysgolion uwchradd er mwyn sôn am y cyfleoedd ar gael.

Dywedodd Sian Ashton o STEMNET, sy'n hybu diddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, y gallai siarad iaith arall fod yn bwysig iawn i wyddonwyr a pheirianwyr.

Eisoes mae STEMNET a CILT Cymru, y Ganolfan ar gyfer Ieithoedd Tramor, wedi bod i ysgolion y de.

'Rhyngwladol'

"Weithiau mae cwmnïau mawr yn dweud bod angen cymhwyster peirianyddol ac yn nodi bod ieithoedd yn bwysig," meddai Ms Ashton.

"Os nad yw'r unigolyn ar gael yng Nghymru maen nhw'n mynd i wledydd lle mae hi'n gyffredin i bobl siarad mwy nag un iaith, gan gynnwys Saesneg, fel yr Iseldiroedd, Sweden neu ddwyrain Ewrop.

"Hefyd maen nhw angen siaradwyr iaith er mwyn helpu eu cwmnïau dyfu'n rhyngwladol."

Yn 2013 bydd "llysgennad" â chysylltiadau â chwmni Airbus yn mynd i Ysgol Sir Richard Gwyn yn Y Fflint.

Yr wythnos ddiwethaf aeth Jana Witt, gwyddonwraig o'r Almaen, i Ysgol Gyfun y Bontfaen ym Mro Morgannwg.

Esboniodd sut yr oedd astudio ieithoedd wedi bod yn fantais iddi ym myd gwyddoniaeth.

'Mwynhau'

Dywedodd Emma Green, pennaeth adran ieithoedd modern yr ysgol, fod y disgyblion wedi ymateb yn dda iawn.

"Fe wnaethon nhw fwynhau'r gweithgareddau," meddai.

"Roedd yn ddigwyddiad effeithiol ac roedd yn ddiddorol ystyried gwyddoniaeth o safbwynt ieithoedd ac ieithoedd o safbwynt gwyddoniaeth."

Dywedodd fod yr ysgol mewn sefyllfa "addawol" o ran nifer y disgyblion oedd yn dewis astudio ieithoedd.

"Ond rydym bob amser yn awyddus i gael mwy sy'n dewis ieithoedd," meddai.