Argyfyngau: 'Angen cydgysylltu'n well'

  • 6 Rhagfyr 2012
Gweithwyr yn clirio ar ôl llifogydd yng Ngogledd Cymru ym mis Tachwedd
Mae llifogydd diweddar gafwyd yng Nghymru yn tanlinellu pwysigrwydd canfyddiadau'r adroddiad yn ôl yr Archwilydd

Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy clir am eu rhan yn y gwaith o gydgysylltu mewn argyfyngau ac mae angen hefyd i sefydliadau ymateb yn fwy effeithlon.

Dyna farn Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Thomas, mewn adroddiad yn dilyn archwiliad o'r ffordd mae'r trefniadau argyfwng yn cael eu gweithredu yng Nghymru.

Ym marn y Swyddfa Archwilio, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth effeithiol iawn i'r ymatebwyr Categori Un - sef y prif asiantaethau sy'n ymateb i argyfyngau sifil.

Ond mae 'na broblem gan nad yw pwerau yn ymwneud ag argyfyngau sifil wedi'u datganoli.

'Mwy o eglurder'

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Dylai'r rhai sy'n ymateb i argyfyngau sifil yng Nghymru gael eu canmol am reoli digwyddiadau mawr yn effeithiol, ac mae'r llifogydd diweddar ar hyd a lled Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd canfyddiadau'r adroddiad.

"Fodd bynnag, mae angen cael mwy o eglurder ynghylch swyddogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran goruchwylio trefniadau ar gyfer argyfyngau sifil.

Huw Vaughan Thomas
Yn ôl Mr Thomas gwariodd awdurdodau lleol £4 miliwn ar gynllunio at argyfwng yn 2010-11

"Mae angen i ymatebwyr Categori Un hefyd fod yn fwy rhagweithiol o ran eu perfformiad, eu heffeithlonrwydd a'u defnydd o adnoddau fel y gellir rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd y byddant yn parhau i gael eu hamddiffyn o gofio maint yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.'

Yn ôl Mr Thomas gwariodd awdurdodau lleol £4 miliwn ar gynllunio at argyfwng yn 2010-11 ond nid ydynt bob amser yn blaenoriaethu gwariant i'r meysydd hynny lle ceir y risg fwyaf o argyfyngau sifil.

Ychwanegodd: "At hynny, gyda chyfnodau ariannol anodd o'n blaenau, mae'n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn cyfeirio eu gwariant i flaenoriaethau eraill.

"Mae toriadau gwariant yn y dyfodol hefyd yn debygol o gael effaith fawr ar allu ymatebwyr Categori Un i gynnal a gwella'r gwasanaeth hwn, gyda'r heddlu a'r gwasanaethau tân ac achub eu hunain yn bwriadu gostwng eu gwariant cyffredinol o ychydig dros £100 miliwn yn ystod y pedair blynedd hyd at 2014-15."

Wyth argymhelliad

Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bellach yn adolygu opsiynau i roi trefniadau cynllunio at argyfwng ar waith yn rhanbarthol ar ôl Adolygiad Simpson yn 2011.

Mae tystiolaeth yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cefnogi'n gryf y penderfyniad i gynnwys awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, a gwasanaethau tân ac achub yn yr ad-drefnu hwn, ac y dylai trefniadau ar gyfer argyfyngau sifil yn y dyfodol fod yn fwy cadarn ac effeithlon.

Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Swyddfa'r Cabinet i gryfhau trefniadau i oruchwylio sut y caiff Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ei gweithredu.
  • Angen i ymatebwyr Categori Un gymryd perchenogaeth dros eu perfformiad yn unol â chanllawiau statudol Swyddfa'r Cabinet.
  • Mae angen i ymatebwyr Categori Un adolygu eu cynlluniau argyfwng yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.
  • Angen i ymatebwyr Categori Un sicrhau bod cofrestrau risg cymunedol yn nodi'r amrywiaeth llawn o risgiau a'u canlyniadau.
  • Mae'r adroddiad yn ystyried gallu y trefniadau cynllunio at argyfwng i ymateb i argyfyngau a sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sefydliadau sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon.
  • Mae'r cyrff sector cyhoeddus sy'n gyfrifol am weithredu Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 wedi'u trefnu'n bedwar Fforwm Lleol yn y De, y Gogledd, Gwent a Dyfed-Powys. Mae Cymru hefyd yn cydgysylltu gwasanaethau brys drwy'r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys ac yn gweithredu Fforwm Cymru Gydnerth, sef corff anstatudol a gaiff ei gadeirio gan Brif Weinidog Cymru.
  • Swyddfa'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb statudol cyffredinol am Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, ond mae pob sefydliad sydd wedi'i ddynodi yn ymatebydd yn atebol yn unigol o dan y ddeddfwriaeth hon ac yn gyfrifol am ei berfformiad ei hun.
  • Mae ymatebwyr Categori Un yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub, y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol. Mae ymatebwyr Categori Dau yn cynnwys cyflenwyr nwy a thrydan, cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus a chwmnïau ffôn, a gweithredwyr meysydd awyr.
  • Mae'r Groes Goch Brydeinig, Eglwysi yng Nghymru a Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched ymhlith y sefydliadau gwirfoddol sydd wedi ymateb i argyfyngau sifil diweddar yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu bod yr adroddiad wedi dweud bod y trefniadau sydd gan y llywodraeth mewn lle i ddelio ag argyfyngau sifil yn gyffredinol yn gweithio'n dda ac yn diogelu'r cyhoedd.