Ryan Day allan o Bencampwriaeth Snwcer Prydain

Ryan Day Image copyright Getty Images

Mae Ryan Day wedi methu â chyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer Prydain wedi iddo golli 6-4 i Mark Selby o Loegr ddydd Mercher.

Yr unig Gymro sydd dal yn y bencampwriaeth yw Matthew Stevens, wnaeth gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ôl curo Marco Fu 6-4 ddydd Mawrth.

Bydd Stevens yn herio naill ai cyn pencampwr y byd John Higgins neu Mark Davis o Loegr yn rownd nesaf y bencampwriaeth sydd yn cael ei chynnal yn Efrog tan ddydd Sul.

Canlyniadau'r Cymry

Dydd Mercher.

Ail Rownd: Ryan Day 4-6 Mark Selby (Lloegr)

Dydd Mawrth

Ail Rownd: Matthew Stevens 6-4 Marco Fu (Hong Kong)

Dydd Llun

Rownd Gyntaf: Mark Williams 3-6 Mark King (Lloegr)

Rownd Gyntaf: Matthew Stevens 6-1 Dominic Dale

Dydd Sadwrn

Rownd Gyntaf: Ryan Day 6-4 Ding Junhui (Tseina)

Rownd Gyntaf Michael White 3-6 Mark Selby (Lloegr)