Ymateb i ddatganiad y Canghellor

George Osborne

Yn ôl y disgwyl, cymysg oedd yr ymateb yng Nghymru i araith y Canghellor George Osborne am yr economi ddydd Mercher.

Roedd gwefan y Trysorlys yn prysuro i gyhoeddi manteision Cymru, gan gynnwys 13,000 yn llai o bobl yn talu treth incwm ac 1.1 miliwn fyddai'n talu llai o dreth incwm.

Bydd gohirio cynnydd yn y dreth ar danwydd yn lleihau costau moduro, gan arbed £40 y flwyddyn ar gyfartaledd i yrwyr Cymru.

Dywedodd y Trysorlys y byddai mesurau cefnogi busnesau yn fuddiol i 193,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

'Rhwystrau'

Croesawodd Geoff Tomlinson o gwmni Freight Systems Express yng Nghaerdydd y cyhoeddiad am y dreth ar danwydd.

"Rwy'n falch iawn bod y Canghellor wedi penderfynu peidio codi'r dreth o 3c y litr ym mis Ionawr.

"Er ein bod ni wedi cael blwyddyn bositif, mae'n ymddangos bod rhwystrau yn cael eu gosod yn llwybr twf busnes - yn sicr yn ein diwydiant ni - gyda'r cynnydd diweddar yn y tollau i groesi Pontydd Hafren yn esiampl dda.

"Er nad yw gohirio'r dreth ar danwydd yn diddymu ein problemau i gyd, fe fydd yn ysgafnhau'r pwysau ar nifer o ddiwydiannau allweddol yng Nghymru.

"Mae'r buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd hefyd i'w groesawu."

'Ymrwymiad'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Mae'r Canghellor wedi tanlinellu ymrwymiad y llywodraeth i sefydlogi'r economi a hybu twf drwy'r DU.

"Bydd effeithiau ei gyhoeddiadau yn gryf ar Gymru. O fusnesau i unigolion, mae datganiad yr hydref yn dangos bod y llywodraeth yn hybu buddsoddiad ac yn gwobrwyo gwaith caled.

"Rydym yn parhau i ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar opsiynau cyllidol i wella'r M4 ac mae'r rheini yn cael eu hystyried ochr yn ochr â thrafodaethau am argymhellion Comisiwn Silk ar gyllido Cymru.

"Bydd y llywodraeth yn ymateb yn ffurfiol i ran gyntaf adroddiad Silk yn y gwanwyn."

'Gwrando ar bryderon'

Dywedodd Cadeirydd Uned Bolisi Cymru y Ffederasiwn Busnesau Bach, Janet Jones: "Mae'r Canghellor wedi gwrando ar bryderon ein haelodau ac wedi cyflwyno cynlluniau i ateb y pryderon, yn enwedig annog buddsoddwyr i roi arian i fusnesau bach, a gohirio'r cynnydd yn y dreth ar danwydd.

"Rydym yn disgwyl manylion pellach am y banc busnesau bach - mae hyn yn rhywbeth canolog i ryddhau cyllid i gwmnïau llai.

"Mater i Lywodraeth Cymru nawr yw rheoli'r arian fydd yn dod i Gymru yn ddeallus ac er budd economi Cymru.

"Hoffwn weld y £227m ychwanegol o arian cyfalaf yn cael ei wario drwy'r Cynllun Buddsoddi Isadeiledd Cymru ar gynlluniau sydd yn amlwg o fudd ariannol i Gymru."

Dadlau

Yng nghanol ei araith dywedodd Mr Osborne y byddai'n annog mwy o chwilio ac o ddefnydd o nwy shâl.

Mae hwn yn bwnc sydd wedi achosi dadlau mewn rhannau o Gymru dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Andy Atkins: "Mae'n rhaid bod cwmnïau sy'n llygru yn credu bod Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar.

"Tra bod yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey yn ceisio dangos arweiniad yn y trafodaethau hinsawdd yn Doha, mae'r Canghellor wrthi'n cyhoeddi llai o dreth i'r diwydiant tanwydd fossil sy'n bygwth difetha ymrwymiad y DU i dorri allyriadau.

"Rhaid i Aelodau Seneddol rwystro'r rhuthr yma tuag at nwy a mynnu cael strategaeth ynni sy'n rhoi anghenion y genedl yn gyntaf - trwy fuddsoddi mewn cynlluniau ynni effeithlon gan ddefnyddio potensial anferth y gwynt, y tonnau a'r haul."