Datganiad yr Hydref: 'Teuluoedd sy'n gweithio fydd yn diodde'

Teulu yn siopa
Gall teulu ar £20,000 y flwyddyn fod ar eu colled wedi'r datganiad

Teuluoedd sy'n gweithio ac ar incwm isel fydd yn cael eu taro waetha' gan y newidiadau i drethi a budd-daliadau a gyhoeddwyd yn Natganiad Hydref y Canghellor, yn ôl y Blaid Lafur.

Gallai teulu gyda phlant sy'n derbyn incwm o £20,000 y flwyddyn golli £279 y flwyddyn o fis Ebrill ymlaen, meddai'r blaid.

Mae'r Trysorlys wedi gwadu honiadau y byddai teuluoedd o'r fath ar eu colled o ganlyniad i'r newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Mercher.

Mae'r Canghellor wedi dweud na fydd yn gwrando ar y "dyn sy'n gyfrifol" am broblemau economaidd y DU, gan ddweud mai Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls, ynghyd â Gordon Brown, fu'n gyfrifol am greu'r "llanast".

Yn y cyfamser fe wnaeth asiantaeth Fitch ddweud bod 'na risg y gallai statws credyd Prydain gael ei israddio ar ôl i'r Canghellor ddweud y byddai Llywodraeth Clymblaid San Steffan yn methu ei tharged o ran lleihau'r ddyled.

Wrth gyhoeddi'r datganiad, rhagflas o'r gyllideb yn y gwanwyn, dywedodd George Osborne ddydd Mercher bod y "ffordd yn anodd ond rydym ar y llwybr cywir".

Arian i Gymru

Fe fydd 'na £227 miliwn ychwanegol yn dod i Lywodraeth Cymru yn sgil arian ychwanegol sydd ar gael i brosiectau yn Lloegr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones fod hyn yn newyddion da i Gymru.

"Mae'r Canghellor wedi rhoi llawer mwy o arian i Lywodraeth Cymru.

"Fe fyddan nhw'n gallu mynd ymlaen i wario'r arian ar brosiectau sy'n bwysig i bobl Cymru."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn falch fod Llywodraeth San Steffan wedi gwrando ar alwadau am fuddsoddiad mewn isadeiledd.

Ond ar waetha'r arian ychwanegol, bydd cyllideb gyfalaf ei lywodraeth 39% yn is mewn termau real yn 2014-15 nac yr oedd yn 2009-10 meddai.

Rhybuddiodd y bydd Cymru yn wynebu hinsawdd galed o ran gwariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod o ganlyniad i ddatganiad yr hydref.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru, eu bod fel plaid wedi bod yn galw yn ystod y problemau economaidd am fuddsoddi yn y gyllideb capital.

"Ond y gwir yw bod yr arian yn cael ei ariannu drwy dorri cyllidebau refeniw ac os gwneud hyn i adrannau San Steffan mae 'na oblygiad negyddol....i Lywodraeth Cymru.

"Mae'n rhoi ar un llaw a chymryd ar y llall."