Tân yn difrodi tai teras yn Llanfair-ym-Muallt

Fe fydd ymchwilwyr yn dychwelyd i geisio canfod achos tân wnaeth ddifrodi nifer o dai teras yn Llanfair-ym-Muallt.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle toc cyn 10.30pm nos Fercher.

Cafodd un adeilad o'r wyth tŷ teras yn Nheras Wye View ei ddifrodi'n llwyr ac un arall yn rhannol.

Difrodwyd dau arall gan fwg.

Bu swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru ar y safle tan 2.30am.

Mae disgwyl i ddiffoddwyr ddychwelyd i archwilio'r safle bore Iau i wneud yn siwr bod y safle'n ddiogel.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.