Apêl heddlu wedi i rywun ddifrodi camera ar blatfform

Dyn yng ngorsaf Cwmbrân Image copyright BTP
Image caption Mae HTP wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw am ei holi am y digwyddiad

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am wybodaeth wedi i gamera cylch cyfyng gael ei ddifrodi yng ngorsaf rheilffordd Cwmbrân.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw am ei holi mewn cysylltiad â'r digwyddiad ddydd Iau, Tachwedd 15.

Dywedodd Cwnstabl Debi Rouse o HTP: "Ychydig wedi 9pm, gwelwyd dyn yn gorchuddio lens camera cylch cyfyng mewn lloches ar blatfform 1 cyn mynd ymlaen i'w ddifrodi.

"Dyw hyn yn ddim byd ond malurio gan berson sy'n amlwg heb unrhyw barch at eu hamgylchedd nac eiddo pobl eraill.

"Roedd yn weithred o ddifrod troseddol difeddwl allai fod wedi rhoi pobl ddiniwed mewn perygl."

Disgrifiad

Ar ôl gwylio lluniau o'r camera cyn ac ar ôl y digwyddiad, mae'r heddlu wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw'n credu allai fod â gwybodaeth allweddol am y digwyddiad.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn yn ei 20au cynnar, tua 5 troedfedd 8 modfedd o daldra a chorff cymedrol gyda gwallt byr tywyll.

Roedd yn gwisgo siaced dywyll a throwsus golau, ac roedd wedi eillio.

"Rydym wedi dangos y llun i heddluoedd lleol a staff y rheilffordd er mwyn ceisio cael enw i'r dyn, ond yn ofer," medd Ms Rouse.

"Byddwn nawr yn annog unrhyw un sy'n adnabod y person i gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain, gan fy mod yn credu y bydd yn medru cynorthwyo'r ymchwiliad i'r digwyddiad yma.

"Hefyd roedd menyw tua'r un oed gyda'r dyn yn y llun sy'n cael ei disgrifio fel menyw denau gyda gwallt hir. Ai chi yw'r fenyw yma neu ydych chi'n gwybod pwy yw hi?

"Os felly hoffwn glywed gennych hefyd."

Os oes gennych wybodaeth allai fod o gymorth, dylech ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040 gan nodi'r cyfeirnod B5/WHA, neu fe allwch chi ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.