Gweinidog Addysg yn dweud fod gormod o awdurdodau addysg

Leighton Andrews
Image caption Leighton Andrews: "Ni fyddwn i wedi dyfeisio 22 o awdurdodau addysg lleol ar gyfer cenedl o 3 miliwn"

Dywed Gweinidog Addysg Cymru nad yw'r system o gael 22 o awdurdodau addysg yng Nghymru yn gweithio.

Mewn araith yn Llandudno nos Iau dywedodd fod y Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud camgymeriad yn y 90au wrth greu 22 o awdurdodau addysg yng Nghymru.

Dywedodd yng nghinio dathlu pen-blwydd y Sefydliad Materion Cymraeg yn 25 oed, fod angen edrych unwaith eto ar strwythur yr awdurdodau addysg yng Nghymru.

"Mae datganoli wedi rhoi mwy o atebolrwydd i ni yng Nghymru. Ond nawr mae angen gofyn a yw'r holl strwythurau oedd yn bodoli cyn datganoli yn addas erbyn heddiw.

"Ni fyddwn i wedi dyfeisio 22 o awdurdodau addysg lleol ar gyfer cenedl o 3 miliwn.

"Fyddai neb call wedi gwneud. Fe wnaeth John Redwood (Ysgrifennydd Cymru ar y pryd)."

'Methiant'

Honnodd Mr Andrews fod ffurfio cynifer o awdurdodau addysg yn un o'r ffactorau a barodd i berfformiadau addysg i ostwng ddegawd yn ddiweddarach.

"Y gwir yw bod y strwythur o 22 o awdurdodau addysg lleol gafodd ei sefydlu gan y Torïaid yn methu ein plant, ac nid yw'n addas".

Mae'n galw am 'drafodaeth adeiladol' ynglŷn â'r dyfodol.

"Ni fyddwn yn goddef methiant. Ni fyddwn yn goddef cyffredinedd, na chwaith yn goddef y status quo gafodd ei osod gan y Torïaid yn y 90au. Gadewch i'r bobl hynny sydd â syniadau adeiladol gael cyfle i'w gwyntyllu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.