Pryderon am gynllun pŵer dŵr newydd £100m yng Ngwynedd

  • 7 Rhagfyr 2012
Yr olygfa i lawr i Chwarel Fawr
Mae’r cwmni yn dweud bod cynllun trydan dŵr yn briodol i ardal o chwareli llechi

Mae pryderon wedi eu mynegi ynglŷn â chynllun ar gyfer cynllun hydro-electrig gwerth £100 miliwn ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae elusen Cymdeithas Eryri yn dweud eu bod yn pryderu am effaith y cynllun yng Nglyn Rhonwy ar fywyd gwyllt, diwylliant a threftadaeth yr ardal.

Yn ôl y cwmni Quarry Battery o Loegr, fe fydden nhw'n gwneud popeth i leihau unrhyw effeithiau o'r fath.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar bwerdy trydan dŵr Dinorwig yn Llanberis.

Yno, mae dŵr yn cael ei bwmpio i fyny i'r llyn ar ben y mynydd pan mae trydan yn rhad.

Yna, caiff ei ryddhau i lawr trwy dyrbin er mwyn creu a gwerthu trydan pan mae'n fwy drud i'r cyflenwyr ei brynu.

Effaith adeiladu

Yng Nglyn Rhonwy, byddai'n rhaid adeiladu argae yn y llyn uchaf ac mae Cymdeithas Eryri yn poeni am effaith y gwaith adeiladu.

"Mae tyllau hen chwarel Glyn Rhonwy is law Cefn Du erbyn hyn yn warchodfa ar gyfer bywyd gwyllt ac yn bwysig iawn i ddiwylliant a threftadaeth yr ardal," meddai'r elusen yn y cylchlythyr diweddara.

"Mae'n rhan o'r cais i Unesco ar gyfer statws treftadaeth y byd, sy'n seiliedig ar y gweithfeydd diwydiannol unigryw yno.

"Mae yna sawl llwybr dringo o fewn y tyllau hefyd, gan gynnwys un o'r enw Gideon, y llwybr dringo gyntaf erioed i gael ei recordio o fewn chwareli Llanberis."

Mwy o ystyriaeth

Mae'r elusen hefyd yn dweud nad oes digon o wybodaeth ar sut bydd y pwerdy newydd yn cysylltu â'r grid cenedlaethol, ac felly yn ofni bydd rhaid codi rhagor o beilonau.

Mae Cyngor Mynydda Prydain yn credu bod cynllun o'r maint yma angen llawer mwy o ystyriaeth.

"Mae ein haelodau hefyd yn teimlo'n gryf na ddylen nhw edrych ar y cyflwyniad yma arwahân, heb hefyd ystyried effaith posib unrhyw geblau trydan uwch ben neu o dan y ddaear mewn ardal gadwraeth mor brydferth," meddai'r cyngor.

Yn ôl Dave Holmes, rheolwr cyffredinol cwmni Quarry Battery, fel cwmni bach mae'n bosib mai dim ond arwain y prosiect trwy'r camau cynllunio y bydden nhw'n chwilio am rywun arall i fwrw 'mlaen gyda'r prosiect adeiladu £100 miliwn os yw'n cael ei dderbyn.

Ychwanegodd Mr Holmes bod yna camddealltwriaeth lleol y bydd peilonau yn cael eu hadeiladu i gysylltu'r cynllun i'r grid.

Priodol

"Fe hoffwn i i'r cysylltiad fod o dan y ddaear, a dwi wedi gofyn i hyn fod yn amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio," meddai.

"Ond cyfrifoldeb y gweithredwr rhwydwaith ardal yw cyflwyno cais ar gyfer unrhyw linciau."

Dywedodd bod ei gwmni wedi dewis Glyn Rhonwy oherwydd daeareg yr ardal ac mae trydan dŵr yn briodol ar gyfer hen chwareli llechi.

Ychwanegodd na fydd y cynllun yn effeithio ar chwarel Gideon.

Olygfa o’r chwarel isaf
Mae sawl cynllun wedi eu cynnig ar gyfer safle Glyn Rhonwy

Yn y gorffennol, mae'r ardal wedi bod yn gysylltiedig â chynlluniau ar gyfer llethr sgïo a chanolfan beicio mynydd.

"Rydym yn teimlo bydd ein cynllun ni yn cyfrannu at hanes yr ardal," meddai Mr Holmes.

"Mae'r nodweddion yno'n barod a bydd yr argae yn cael ei adeiladu i ddynwared y tomenni llechi.

"Dim ond llechi a dŵr bydd i'w weld o le bynnag byddwch yn edrych - sef yr hyn sydd yno'n barod.

"Mae gan bobl Waunfawr bryderon dilys am ddefnydd y ffyrdd ger eu tai yn ystod y gwaith adeiladu.

"Dwi wedi bod i ddau gyfarfod cymunedol yn Waunfawr ac wedi ymweld â thai unigolion i weld be allwn ei wneud."

Bydd y cais cynllunio yn mynd ger bron Cyngor Gwynedd yn y flwyddyn newydd.