Matthew Stevens allan o Bencampwriaeth Snwcer Prydain

Stevens oedd yr unig Gymro oedd dal yn y bencampwriaeth
Image caption Stevens oedd yr unig Gymro oedd dal yn y bencampwriaeth

Mae Matthew Stevens wedi methu â chyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer Prydain wedi iddo golli 6-4 i Mark Davis o Loegr nos Iau.

Stevens oedd yr unig Gymro oedd dal yn y bencampwriaeth sydd yn cael ei chynnal yn Efrog tan ddydd Sul.

Canlyniadau'r Cymry

Dydd Iau

Rownd yr wyth olaf: Matthew Stevens 4-6 Mark Davis (Lloegr)

Dydd Mercher.

Ail Rownd: Ryan Day 4-6 Mark Selby (Lloegr)

Dydd Mawrth

Ail Rownd: Matthew Stevens 6-4 Marco Fu (Hong Kong)

Dydd Llun

Rownd Gyntaf: Mark Williams 3-6 Mark King (Lloegr)

Rownd Gyntaf: Matthew Stevens 6-1 Dominic Dale

Dydd Sadwrn

Rownd Gyntaf: Ryan Day 6-4 Ding Junhui (China)

Rownd Gyntaf Michael White 3-6 Mark Selby (Lloegr)