Hyfforddwr Cymru Rob Howley i gynorthwyo'r Llewod

Rob Howley Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Howley yng ngharfan y Llewod yn nheithiau 1997 a 2001

Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, wedi ei benodi'n un o gynorthwywyr Warren Gatland ar daith y Llewod i Awstralia haf nesaf.

Hyfforddwyr Lloegr Graham Rowntree ac Andy Farrell fydd y cynorthwywyr eraill.

Nid yw union ddyletswyddau'r tri wedi cael eu cadarnhau.

Bydd y Llewod yn chwarae tair gêm brawf yn erbyn Awstralia a saith o gemau eraill ar y daith, gan gynnwys gêm gyfeillgar yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong.

Oherwydd anaf i Gatland bu'n rhaid i Howley, 42 oed, gymryd yr awenau ar gyfer taith Cymru i Awstralia yn gynharach eleni.

Roedd Howley wrth y llyw wrth i Gymru golli i Samoa a'r Ariannin ym mis Tachwedd ac ef fydd y prif hyfforddwr ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

Mae Howley, oedd yng ngharfan y Llewod yn nheithiau 1997 a 2001, wedi colli pump o'i chwe gêm yn brif hyfforddwr Cymru.

Roedd cytundeb Gatland gydag Undeb Rygbi Cymru yn caniatáu iddo fod yng ngofal Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.