Lladradau: Heddlu yn arestio chwech

  • 10 Rhagfyr 2012

Mae chwe dyn wedi eu harestio gan dditectifs mewn cysylltiad â nifer o ladradau o dai pobl hŷn yn ne Cymru.

Cafodd y chwech eu harestio yn ardal Abertawe ddydd Sadwrn Rhagfyr 8 yn dilyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd.

Mae dyn 31 oed o Nottingham wedi ei gyhuddo o dri achos o fyrgleriaeth ac un achos o dwyll.

Mae dyn 55 oed a dyn 20 oed wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod tri dyn, 43 oed, 32 oed ac 20 oed wedi eu rhyddhau gan yr heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.