Damwain: Rhan o ffordd ynghau

  • 8 Rhagfyr 2012

Mae rhan o ffordd ynghau oherwydd damwain yng Nghwm Tawe fore Sadwrn.

Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain ar yr A4067 rhwng Ystalyfera ac Ystradgynlais, meddai'r gwasanaeth tân.

Cafodd y ffordd ei chau rhwng Cyffordd A4068/B4599 (Cylchfan Aubrey) a'r B4599 Trawsffordd.

Dywedodd y gwsanaethau brys eu bod wedi cael galwad am 8.10am.