Toulouse 30-14 Gweilch

Gweilch
Image caption Roedd ymdrech y Gweilch yn ddewr yn Ne Ffrainc

Toulouse 30-14 Gweilch

Er bod eu hymdrech yn ddewr mae gobeithion y Gweilch yng Nghwpan Heineken wedi diflannu.

Roedd y Gweilch yn gwrthsefyll yn yr hanner cyntaf cyn i'r llanw droi yn yr ail hanner pan oedd eu sgrym yn gwegian.

Yn aml roedd chwarae Toulouse yn geidwadol ac weithiau roedd amddiffyn y Cymry'n gadarn.

Wythwr Toulouse Louis Picamoles oedd eu hysbrydoliaeth wrth i Florian Fritz, Yanick Nyanga, Vincent Clerc, Census Johnstone ac Yoann Huget groesi'r llinell.

Y trobwynt efallai oedd ar ôl 56 munud - enillodd Picamoles dir, pasio i Luke Burgess a Vincent Clerc wibiodd i'r gornel dde.

Kahn Fotouali'i a Ryan Bevington sgoriodd geisiadau'r Cymry.

Toulouse oedd â'r gair ola' pan giciodd Jean Marc Doussain gic gosb yn ystod y funud ola'.

Pum cais i'r Ffrancod a phum pwynt yn saff.