Scarlets 16-22 Caerwysg

Rhys Priestland
Image caption Cafodd Priestland ei gario o'r cae a'r gred yw iddo anafu ei figwrn

Scarlets 16-22 Caerwysg

Cafodd y maswr Rhys Priestland ei gario o'r cae wrth i'r Scarlets golli yn erbyn Caerwysg.

Y gred yw iddo anafu ei figwrn.

Doedd dim awch yn chwarae'r Scarlets ac weithiau roedden nhw fel tîm nad oedd wedi chwarae gyda'i gilydd y tymor hwn.

Yn bennaf oll, roedd camdrafod yn broblem.

Ar y llaw arall, roedd y Saeson yn gystadleuol a'u pac trwm yn creu sylfaen ar gyfer eu buddugoliaeth gynta' yng Nghwpan Heineken.

Roedd y Scarlets yn colli 16-6 ar yr egwyl ac roedd trosgais yn hwb i'w gobeithion.

Ond roedd cicio Gareth Steenson, 17 o bwyntiau, yn drech na nhw.

Aeth eilydd Caerwysg, Ben Moon, i'r gell gosbi wedi 65 o funudau ac er bod gan y Scarlets fwy o chwarewyr roedd eu hymdechion yn ofer.