Damwain: Gyrrwr wedi marw ger Ystradgynlais

Mae'r heddlu wedi dweud bod gyrrwr wedi marw wedi damwain yng Nghwm Tawe fore Sadwrn.

Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain ar yr A4067 rhwng Ystalyfera ac Ystradgynlais, meddai'r gwasanaeth tân.

Dywedodd y gwsanaethau brys eu bod wedi cael galwad am 8.10am.

Cafodd y ffordd ei hailagor rhwng Cyffordd A4068/B4599 (Cylchfan Aubrey) a'r B4599 Trawsffordd am 7pm.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.