Cwmni solar yng Nghaerdydd yn nwylo'r gweinyddwyr

Dyfais ynni solar Image copyright G24 - used on previous story

Mae cwmni ynni solar sy'n cyflogi 40 o bobl yng Nghaerdydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae cwmni G24 Innovations yn dylunio paneli solar sy'n gallu pwery ffonau symudol.

Dywedodd y gweinyddwyr, Wilkins Kennedy, eu bod yn gobeithio achub y cwmni rhag mynd i'r gwellt gan warchod swyddi.

Symudodd y cwmni i Gymru yn 2006 gan ddweud ar y pryd eu bod yn gobeithio creu 300 o swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Wilkins Kennedy fod y gweinyddwyr wedi eu penodi ar Ragfyr 3.

Ychwanegodd y byddai credydwyr yn derbyn adroddiad "cyn gynted ag y bo modd".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.