Blwyddyn welodd her costau ac effaith ynni

Poster yn erbyn cynllun peilionau ynni ym Mhowys
Mae 'na wrthwynebiadau i gynlluniau ynni ar draws sawl ardal o Gymru

Mewn gwlad a thref roedd ynni yn bwnc trafod amlwg yn ystod y flwyddyn.

Fis Ionawr roedd pris trydan a nwy yn cynyddu, ac felly mae hi ddeuddeg mis yn ddiweddarach hefyd.

Mae Cymru yn datblygu'n fan cynhyrchu egni er mwyn trydan, a bwydo'r Grid Cenedlaethol, yn aml ble mae lleoli ffermydd gwynt, pwerdai a pheilonnau yn cael eu lleoli yn corddi pobl.

Fe ddaw tyllu am nwy siâl, a phroses o'r enw ffracio, yn fwy cyfarwydd, ac yn debygol o esgor ar fwy o boeni a gwrthwynebu wedi penderfyniad llywodraeth Prydain i ganiatáu chwilio am nwy anghonfensiynol yn gynharach y mis yma.

Wedi trafod sychder Lloegr yn y gwanwyn, a Chymru yn gwerthu dŵr i'r Saeson, bellach mae gormodedd o law wedi diflasu pawb, yn enwedig y ffermwyr.

Gyda'n hinsawdd yn amrywio mae afiechydon dieithr yn ymddangos - Schmallenberg mewn anifeiliaid fferm ac afiechyd yr ynn yn dechrau amharu ar goed ledled Cymru.

Gwrthdystio trefnus

Mi fu Powys yn faes protestio yn erbyn peilonnau'r Grid ers dwy flynedd.

Yn yr haf clustnodwyd pentref Cefn Coch fel lleoliad is-orsaf drydan fydd ei hangen petai rhai cannoedd o felinau gwynt newydd yn cael eu hadeiladu.

Er bod hynny yn y fantol gydag ymchwiliad cyhoeddus y flwyddyn nesaf - mae'r gwrthdystio yn drefnus.

Ac mae wedi dechrau yng Ngwynedd ag Ynys Môn hefyd.

Argymhelliad y Grid Cenedlaethol ydy adeiladu rhes arall o beilonnau i gario pŵer Wylfa B a ffermydd gwynt ar y môr.

Yn ôl Llywelyn Rhys o asiantaeth ynni adnewyddol Renewable UK, mae gwaith y grid yn hanfodol.

"Mae llawer iawn o'r rhwydwaith sydd ganddo ni'n barod dipyn bach yn hen, ac mae angen ei adnewyddu.

"Ond yn fwy na hynny hefyd mae angen cysylltu ffyrdd o gynhyrchu ynni glan, ynni carbon isel gyda'r rhwydwaith, ac felly mewn sawl man mae rhaid cryfhau'r rhwydwaith."

Atomfa

Er y gallai gostio biliwn o bunnau yn fwy i redeg ceblau trydan dan ddaear neu ar wely'r môr, dyna fyddai dewis y Cynghorydd Alun Mummery o Lanfairpwll, a nifer o bobl eraill.

Atomfa'r Wylfa
Cafodd cwmni Horison, oedd wedi ei sefydlu i godi ail atomfa yn Yr Wylfa ei werthu yn ystod y flwyddyn

"Dwi wedi bod yn sbio ar hwn yn genedlaethol, a dyma'r un un ffordd y ma' nhw (Y Grid Cenedlaethol) yn gweithredu, achos ma' ganddoch chi garfannu cryf yn Ardal y Llynnoedd, yng Ngwlad yr Haf a Phowys.

"Dyma'r union ffordd y ma' nhw'n gweithredu, a mynd ma' nhw am yr opsiwn rhataf… "

Roedd Ynys Môn yn y penawdau fis Mawrth hefyd, wedi i gwmniau RWE npower a E.on gyhoeddi eu bod am werthu Horizon Nuclear Power, a oedd am ddatblygu atomfa newydd.

Yr un mis roedd mudiad Pobl Atal Wylfa B yn tynnu sylw bod blwyddyn ers i tsunami chwalu Atomfa Fukushima yn Japan.

Yn eironig, erbyn yr hydref cwmni electronig Hitachi, brynodd Horizon er mwyn cadw breuddwyd cefnogwyr ynni niwclear yn fyw.

Pris Llaeth

Roedd dros 100 yn protestio ger stondin Asda ar Faes y Sioe yn Llanelwedd
Roedd dros 100 yn protestio ger stondin Asda ar Faes y Sioe yn Llanelwedd

Pris llaeth gododd bwysau gwaed ffermwyr yn bennaf eleni, fel Lyn Thomas o Lanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin pan es i i'w gwrdd ar fuarth Bryn Meillion ym mis Gorffennaf.

"Ffermwr wyf fi, ffermwr fi moin bod …ond ar y foment, pris llaeth wedi cwympo dwy geiniog ar hugain - gallai i... byth cynhyrchu llaeth ar y pris 'ny.

"Mae'n costio llawer llawer mwy o arian i fi gynhyrchu 'e 'na beth fi'n cal amdano.

"Mae'n rhaid i fi ddod i'r pwynt, ydw i'n cadw mlaen yn y busnes."

Erbyn y Sioe Fawr yn Llanelwedd roedd cyfarfodydd yn ceisio sicrhau pris llefrith fyddai'n apelio i ffermwyr, proseswyr a pherchnogion yr archfarchnadoedd.

Ond mi fu gwrthdystio, a sawl blocâd o hufenfeydd yn Lloegr.

Erbyn hyn mae Hufenfa De Arfon ger Chwilog wedi gorffen prosesu llaeth yfed a chanolbwyntio ar wneud caws yn unig.

Newid wrth uno

Emyr Roberts
Emyr Roberts sy'n arwain Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff newydd fydd yn cynnwys sawl corff amgylcheddol

Daeth cyfnod newydd hefyd i Emyr Roberts.

Cafodd y cyn-was sifil o Fenllech ei benodi'n brif weithredwr y corff newydd fydd yn ymgymryd â dyletswyddau'r Cyngor Cefn Gwlad, y Comisiwn Coedwigaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dechreuodd ar ei waith gyda "Cyfoeth Naturiol Cymru" (CNC) ar Dachwedd 1.

Erbyn diwrnod Ffŵl Ebrill nesa' mi fydd yn arwain gweithlu o 2,000, yn cyd-weithio gyda bwrdd a chadeirydd ag yn gyfrifol am bob mathau o broblemau yn ymwneud â chynllunio, ynni, cadwraeth, y môr a'n fforestydd.

"Mae bob dim i wneud gyda'r amgylchedd yn gymhleth, dwi'n meddwl," meddai.

"Un o'r pethe' y fydden ni'n edrych arno ydy symleiddio hynny.

"Fedran ni ddim gwneud hynny ar ein pennau ein hunain, ac mi fydd y ddeddfwriaeth dwi'n meddwl, dros amser yn symleiddio ond yn sicr mae'n llawer rhy gymhleth ar hyn o bryd."

Pwerdy

Ar wahân i symleiddio gwarchodaeth amgylcheddol Cymru, mae'r corff newydd i arbed £158 miliwn o fewn deng mlynedd.

Argraff artist o'r pwerdy arfaethedig ar lan y Cleddau ym Mhenfro
Argraff artist o'r pwerdy arfaethedig ar lan y Cleddau ym Mhenfro

Mi fydd cryn graffu ar sut bydd CNC yn pontio gwarchod yr amgylchedd a rheoleiddio pwerdai a llosgyddion.

Yn enwedig gan fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi anfon Nodyn Troseddu i Lywodraeth Prydain yn cwestiynu technoleg ag effaith amgylcheddol pwerdy newydd RWE npower ar lannau'r Cleddau.

Mae'r pwerdy £1 biliwn agorwyd ym mis Medi, yn arllwys dŵr 8 gradd selsiws yn gynhesach yn ôl i'r aber sy'n ardal o gadwraeth morol arbennig.

Ymgyrch Cyfeillion y Ddaear brociodd ymchwiliad y Comisiwn, ac mae Gareth Clubb yn rhagweld anawsterau i'r awdurdodau.

"Dwi erioed wedi gweld llythyr mor gadarn gan Comisiwn Ewrop i unrhyw wladwriaeth o safbwynt troseddau amgylcheddol - mae hwn yn ddifrifol dros ben.

"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn i Lywodraeth Prydain ddangos ei bod hi wedi cydymffurfio â sawl cyfarwyddyd Ewropeaidd achos mae 18 o droseddau unigol yn erbyn 4 cyfarwyddyd gwahanol."

Wrth anwybyddu dadansoddiad gwyddonwyr y Cyngor Cefn Gwlad ers 2004 ynglŷn ag effeithiau'r pwerdy yn sir Benfro, mae cwestiwn pa mor gynaliadwy ydy Llywodraeth Cymru?

Yn ogystal â doethineb uno CCG gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn y cwango newydd.

"Mi wnawn ni'n siwr y bydd annibyniaeth rhwng y ddwy elfen hynny, dwi'n sicr, a dwi wedi arfer a hynny yn y byd addysg ag yn y blaen," ychwanegodd Emyr Roberts.