Dod o hyd i ganabis gwerth £1m

Ffatri ganabis
Image caption Ffatri ganabis

Mae Heddlu'r De wedi canfod ffatri ganabis gyda gwerth tua £1 miliwn o'r cyffur ym Maesteg.

Cafwyd cyrch ar yr adeilad ar Ffordd Commercial tua 5pm ddydd Mawrth.

Yn ôl llefarydd penderfynwyd cynnal cyrch oherwydd bod arogl cryf yn yr ardal.

Arestiwyd dau o ddynion, 31 oed a 19 oed, a llanc 17 oed.

Cafwyd hyd i dros 1,500 o blanhigion yn yr adeilad pedwar llawr.

Bu'n rhaid cael peirianwyr i ddatgysylltu cyflenwad anghyfreithlon o drydan.

Dywedodd yr arolygwr Steve Rees: "Roedd hwn yn weithgarwch soffistigedig.

"Bydd y planhigion yn cael eu dinistrio."

Galwodd ar bobl i gadw llygaid am adeiladau gyda ffenestri wedi eu gorchuddio, arogl cryf a phobl amheus yn ymweld â'r safle yn yr hwyr.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.