Cofio'r Cymry a gollwyd yn ystod 2012

Wrth i 2012 ddirwyn i ben mae BBC Newyddion Ar-lein yn edrych yn ôl ar rai o'r Cymry adnabyddus a gollwyd yn ystod y flwyddyn.

Yn eu plith actorion, cerddorion, gwleidyddion, newyddiadurwyr a rhai o fyd y campau.

DILYS ELWYN EDWARDS

Ar ddechrau'r flwyddyn fe gollwyd un o gyfansoddwyr enwoca' Cymru.

Roedd Dilys Elwyn Edwards yn 93 oed.

Yn wreiddiol o Ddolgellau, roedd hi'n adnabyddus oherwydd ei chaneuon ar gyfer y llais.

Ymysg ei gweithiau enwoca', mae Mae Hiraeth yn y Môr wedi'i seilio ar eiriau soned R Williams Parry.

Roedd yn ddarlithydd cerdd yn y brifysgol cyn astudio gyda Herbert Howells yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.

Wedyn roedd yn dysgu yn Rhydychen pan oedd ei gŵr, Y Parchedig Elwyn Edwards, yn astudio yno.

Bu'n dysgu yn y Coleg Normal ym Mangor a Phrifysgol Bangor.

EMYR DANIEL

Ym mis Chwefror bu farw'r darlledwr Emyr Daniel.

Bu'n newyddiadurwr gyda BBC Cymru gan weithio ar raglen Heddiw a Radio Cymru rhwng 1974 a 1981.

Bu hefyd yn un o uwch swyddogion HTV yn yr 1980au gan gynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer S4C.

Cafodd ei ddisgrifio fel un â "doniau toreithiog" ac un a ddaeth â thrylwyredd, hiwmor a chynhesrwydd i bawb a weithiai gyda nhw".

Roedd yn 63 oed.

EMLYN HOOSON

Roedd Yr Arglwydd Emlyn Hooson yn 86 oed pan fu farw ym mis Chwefror.

Bu'n Aelod Seneddol rhwng 1962-79 cyn ymuno â Thŷ'r Arglwyddi ym 1979.

Yn ystod ei yrfa yn Nhŷ'r Cyffredin, bu'n llefarydd ar amddiffyn, Materion Tramor, Materion Cartref, Materion Cyfreithiol, Amaethyddiaeth a Materion Cymreig.

Collodd ei sedd i'r Ceidwadwyr yn 1979 cyn symud i'r Arglwyddi lle oedd yn llefarydd ei blaid ar Faterion Cyfreithiol, Amaeth, Materion Ewropeaidd a Materion Cymreig.

Yn enedigol o Ddinbych, cafodd ei hyfforddi fel bargyfreithiwr.

Yn 1960 yn 35 oed fe'i gwnaed yn Gynghorydd i'r Frenhines, y bargyfreithiwr ieuengaf o Gymru i wneud hyn.

Un o'i achosion enwocaf oedd yn Llys y Goron Caer yn 1966 wrth amddiffyn Ian Brady, un o lofruddwyr y "Moors".

MERVYN DAVIES

Ym mis Mawrth daeth y newyddion bod un o gyn-chwaraewyr rygbi Cymru, Mervyn Davies, wedi marw.

Roedd capten tîm rygbi Cymru yn 65 oed.

Bu'r wythwr yn gapten y tîm enillodd y Gamp Lawn yn y 1970au.

Bu'n dioddef o ganser.

Cafodd ei ddisgrifio fel "cawr o chwaraewr".

Daeth ei yrfa chwarae i ben pan gafodd waedlif ar ei ymennydd yn ystod gêm rhwng Abertawe a Phont-y-pŵl yn 1976.

PHILIP MADOC

Bu farw'r actor a'r "llais cyfoethog" Philip Madoc ym mis Ebrill yn 77 oed.

Yn enedigol o Ferthyr Tudful, fe fydd yn cael ei gofio'n bennaf am ei bortread o'r gwleidydd David Lloyd George yn y gyfres deledu, The Life and Times of David Lloyd George.

Cyn hynny daeth i amlygrwydd mewn cyfresi teledu fel Manhunt a Last Of The Mohicans yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au.

Roedd yn enwog am ei lais cyfoethog ac oherwydd hwnnw roedd yn enwog am waith actio ar y radio.

EDDIE MAY

Am bron i bedair blynedd bu Eddie May yn rheolwr ar Glwb Pêl-droed Caerdydd yn y 1990au.

Ym mis Ebrill bu farw yn 68 oed.

Fo oedd wrth y llyw pan ddaeth y clwb i'r brig yn y Drydedd Adran yn nhymor 1992-93.

Fe wnaethon nhw hefyd ennill Cwpan Cymru'r tymor hwnnw gyda buddugoliaeth 5-0 yn ennill Y Rhyl.

Uchafbwynt arall oedd maeddu Manchester City 1-0 yng nghwpan yr FA yn 1994.

Wedi ei eni yn Epping bu'n chwarae gydag amryw o dimau gan gynnwys Wrecsam ac Abertawe cyn troi at reoli.

Bu'n rheoli nifer o glybiau gan gynnwys Casnewydd.

EMRYS ROBERTS - EMRYS DEUDRAETH

Roedd Emrys Roberts yn Archdderwydd Cymru rhwng 1987 a 1990.

Enillodd Emrys Deudraeth y Gadair ddwywaith, ym Mhrifwyl y Bala yn 1967 gydag awdl Y Gwyddonydd ac ym Mangor yn 1971 gydag awdl Y Chwarelwr.

Wedi ei eni yn Lerpwl yn 1929 symudodd y teulu i Benrhyndeudraeth ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Y Bermo a'r Coleg Normal ym Mangor aeth ymlaen i fod yn athro yn Ynys Môn a Chroesoswallt cyn dod yn brifathro Ysgol y Banw yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn.

Bu farw ym mis Mawrth yn 82 oed.

BRIAN HIBBARD

Bu farw'r actor a'r canwr Brian Hibbard yn 65 oed ym mis Mehefin.

Ef oedd sylfaenydd grŵp The Flying Pickets gyrhaeddodd frig y siartiau gyda'r gân "Only You" yn ystod Nadolig 1983.

Roedd hefyd yn actio mewn ffilmiau a chyfresi teledu, gan gynnwys Pobol y Cwm, Pam Fi Duw?, Coronation Street, Eastenders ac Emmerdale.

Cafodd wybod ei fod yn dioddef o ganser y prostad yn 2010.

Fe oedd "Karaoke King" Dai yn y ffilm Twin Town yn ogystal ag ymddangos yn y ffilmiau House of America a Rancid Aluminium.

Cafodd ei eni yng Nglyn Ebwy yn 1946.

TOM MAYNARD

Image copyright PA

Roedd Tom Maynard yn gricedwr ifanc addawol.

Oriau cyn ei farwolaeth yn Llundain roedd wedi bod yn chwarae dros ei glwb Surrey.

Yn 23 oed bu farw'r Cymro o Gaerdydd ar ôl i drên tanddaearol ei daro yn Llundain.

Credir bod Mr Maynard wedi gadael ei gar Mercedes C250 oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu cyn rhedeg i ffwrdd.

Un o drenau'r District Line wnaeth ei daro ger Parc Wimbledon.

Roedd yn fab i'r cricedwr Matthew Maynard a fu'n chwarae a hyfforddi Morgannwg.

Yn ystod y misoedd ar ôl ei farwolaeth mae 'na nifer o ddigwyddiadau wedi eu cynnal i godi arian ar gyfer ymddiriedolaeth yn ei enw er mwyn cynnig cefnogaeth i gricedwyr ac athletwyr difreintiedig.

EMYR WILLIAMS

Image copyright Daily Post
Image caption Dechreuodd Emyr Williams ei yrfa newyddiadurol yn y 1970au hwyr

Ym mis Hydref bu farw'r newyddiadurwr a'r ymgyrchydd cymunedol, Emyr Williams.

Roedd yn 81 mlwydd oed.

Bu Mr Williams yn ohebydd dros ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd ar gyfer papurau newydd y Daily Post a'r Cambrian News.

Cafodd ei ddisgrifio fel newyddiadurwr "o'i gorun i'w sawdl" gan y cyn Aelod Seneddol dros Gonwy, Betty Williams.

Roedd hefyd yn ymgyrchydd brwd dros faterion lleol fel ysbyty cymunedol Alltwen a chadw sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog yn agored.

Cafodd Mr Williams ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol 2004.

Bu'n gohebu ar gyfarfodydd cyngor yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, a chafodd ei ddisgrifio gan rai fel "rhan o'r dodrefn yn y Brifwyl".

JOHN HEFIN

Yn ei gartref yn Borth, Aberystwyth, y bu farw John Hefin yn 71 oed fis Tachwedd.

Roedd wedi bod yn diodde' o ganser ers rhai misoedd.

Wythnosau yn unig cyn ei farwolaeth llwyddodd i fynychu seremoni Bafta Cymru lle cafodd ei anrhydeddu â gwobr arbennig am ei gyfraniad i fyd y ddrama, ffilm a theledu yng Nghymru.

Bu'n gyn-bennaeth drama BBC Cymru a chyda Gwenlyn Parry bu'n gyfrifol am greu Pobol y Cwm.

Gyda BBC Cymru hefyd fe gynhyrchodd a chyfarwyddo rhaglenni megis Bus to Bosworth; The Life and Times of David Lloyd George; Tough Trade a'r ffilm Grand Slam.

Roedd hefyd yn gyfrifol am gynyrchiadau fel Penyberth, Un Nos Ola Leuad a'r gyfres Cartrefi Cefn Gwlad Cymru ar gyfer S4C.

Straeon perthnasol