Cwpan Capital One: Abertawe 1-0 Middlesbrough

  • 12 Rhagfyr 2012
Michu yn ennill y bêl yn yr awyr
Michu yn ennill y bêl yn yr awyr

Abertawe 1-0 Middlesbrough

Mae'r Elyrch wedi llwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Capital One am y tro cyntaf ar ôl curo Middlesbrough yn Stadiwm Liberty.

Gôl i'w rhwyd ei hun gan yr amddiffynnwr Seb Hines wedi 81 munud oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, ar ôl yr unig gyfnod o bwyso cyson gan Abertawe.

Doedd y rhan fwyaf o'r gêm ddim yn adlewyrchu'r ffaith bod yr Elyrch mewn cynghrair uwch na'r ymwelwyr o'r Bencampwriaeth, ac roedd y rhan fwyaf o'r dorf o 15,000 yn rhwystredig wrth weld Middlesbrough yn rheoli'r chwarae.

Funudau cyn diwedd y gêm fe wnaeth Hines fethu â gwneud yn iawn am ei gamgymeriad pan gollodd gyfle euraidd i ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal pan beniodd dros y bar o droedfedd yn unig i ffwrdd.

Roedd capten Middlesbrough, Grant Leadbitter, yn arwain trwy esiampl, a bu'n rhaid i Gerhard Tremmel fod yn effro iawn yn y gôl i arbed ei ymdrechion deirgwaith.

Roedd Abertawe ar eu gorau yn y chwarter olaf, ac fe wnaeth gic rydd gan Jonathan de Guzman fwrw'r bar wedi i'r golwr Jason Steele gael blaen ei fysedd ar y bêl.

Ar ôl curo Lerpwl, Barnsley a Crawley eisoes yn y gystadleuaeth, mae'r Elyrch un gêm i ffwrdd o Wembley.