
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cytundeb gwerthfawr i Airbus
13 Rhagfyr 2012 Diweddarwyd 21:07 GMT
Roedd 'na ragor o newyddion da i un o gyflogwyr mwya' Cymru.
Mae cwmni Air Asia yn prynu 100 o awyrennau gwerth dros £5 biliwn gan Airbus.
Mae Airbus yn cyflogi 1,500 o bobl yn eu ffatri gwneud adennydd ym Mrychdyn.
Wrth ymweld â'r safle ddydd Iau fe wnaeth y Prif Weinidog David Cameron ddisgrifio'r cytundeb fel "hwb aruthrol" i'r diwyddiant.
Adroddiad Nia Cerys.