Cymdeithas yr Iaith yn lansio 'maniffesto byw'

  • 15 Rhagfyr 2012

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn sylweddol yn yr iaith Gymraeg wrth iddyn nhw lansio 'maniffesto byw'.

Ymgasglodd hyd at 300 o bobl ar y Maes yng Nghaernarfon i lansio'r maniffesto ddydd Sadwrn, a ddaw ar ôl i ganlyniadau'r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi.

Mae'r ddogfen, sy'n cynnwys dros 20 o bolisïau, yn cynnwys y galw am drawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo 'her' allfudo a mewnfudo a gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol i weithiwyr y sector cyhoeddus.

Mae'r maniffesto hefyd yn galw am system addysg ledled Cymru lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg a datganoli swyddi Cymraeg i gymunedau yn ogystal â sicrhau pedair gwaith yn fwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth yn yr iaith.

'Ewyllys gwleidyddol'

Yn ôl y cyfrifiad roedd 20,00 yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn 2011 - lawr o 21% ddegawd yn ôl i 19%.

Fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a'r gogledd.

Yn ôl y gymdeithas, targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r maniffesto hwn yn rhaglen waith gadarnhaol a allai newid tynged ein hiaith genedlaethol unigryw.

'Argyfwng'

"Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau'r Cyfrifiad.

"Gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg.

"Ni all y Gymraeg a'i chymunedau fforddio mwy o'r un peth gan y llywodraeth na sefydliadau Cymru yn ehangach.

"Os derbynia'r Llywodraeth bod argyfwng yn wynebu'r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith.

"Yr hyn sydd eisiau arnom yw'r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad."

Yn gynharach yr wythnos hon gwadodd y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, fod sefyllfa'r iaith yn argyfyngus yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad ond roedd yn cydnabod bob "problem yng nghefn gwlad".

Dydd Gwener dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i hybu'r iaith Gymraeg a bydd yn parhau i weithio'n galed i sicrhau tyfiant yn yr iaith.

"Mae canlyniadau'r Cyfrifiad ar y Gymraeg yn pwysleisio'r ffaith mai yn nwylo plant a phobl ifanc Cymru y mae dyfodol y Gymraeg.

"Fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth iaith, Iaith Fyw: Iaith Byw, ar Fawrth 1 2012.

"Mae hyn yn nodi chwe maes mae angen canolbwyntio arno. Mae'r strategaeth yn cydnabod pa mor fregus yw'r iaith.

"Mae hefyd wedi pwysleisio fod angen hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, a chanolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio'r Gymraeg o fewn y teulu; rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol; cefnogi defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned; hybu defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a datblygu'r defnydd o'r iaith ym maes technoleg gwybodaeth gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

"Drwy dargedu'r meysydd hyn gwelir y Gymraeg yn dod yn fwy perthnasol a rhoddir mwy o gyfle i bobl fwynhau defnyddio'r iaith fel rhan o'u bywyd bob dydd.

"Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn am ddadansoddiad manwl ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ei gynaliadwyedd tymor hir."

Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei rali am 11yb ar y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.