Ymchwiliad ffermydd gwynt: Cyngor yn wynebu bil o £2.8m

Fferm wynt (cyffredinol)
Image caption Mae Cyngor Powys wedi clustnodi arian o'u cronfa wrth gefn i amddiffyn eu penderfyniad i wrthod y ceisiadau.

Mae cyngor wedi apelio am fwy o gymorth wrth iddynt wynebu bil o £2.8m i gymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus ynghylch pum cais i godi ffermydd gwynt y flwyddyn nesaf.

Mae Cyngor Powys wedi clustnodi arian o'u cronfa wrth gefn i amddiffyn eu penderfyniad i wrthod y ceisiadau.

Ond mae'r awdurdod lleol am i Lywodraeth Cymru eu helpu'n ariannol gan ddweud bod y sir yn gorfod delio â mwy o geisiadau i godi ffermydd gwynt na'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi mwy na £130,000 i Gyngor Powys er 2010 i'w helpu ymdrin â'r ceisiadau.

Lleoliad a ffafrir

Yn ôl y cyngor mae'r gost o gymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus yn sylweddol ac y byddai'n faich cyllidol ychwanegol yn ystod cyfnod pan eu bod "dan bwysau ariannol anferthol".

Mae gwrthwynebiad i ffermydd gwynt wedi cynyddu ym Mhowys ers i gynlluniau i adeiladu is-orsaf trydan yn y sir gael eu dadorchuddio.

Cafodd Cefn Coch, ger Llanfair Caereinion ei ddewis fel y lleoliad a ffafrir ar gyfer yr is-orsaf ym mis Gorffennaf eleni.

Teithiodd tua 1,500 o bobl i'r Senedd yng Nghaerdydd ym mis Mai y llynedd i brotestio yn erbyn y cynlluniau sy'n cynnwys rhes o beilonau yn cludo trydan o 10 fferm wynt arfaethedig.

Bydd y pum ymchwiliad cyhoeddus yn dilyn penderfyniad y cyngor i wrthod ceisiadau i godi ffermydd gwynt yn Llaithdu, Carnedd Wen, Llanbadarn Fynydd a Llandinam yn ogystal â chysylltiad â'r Grid Cenedlaethol o Landinam.

'Amddiffyn buddiannau'r cyngor'

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Powys sy'n gyfrifol am gynllunio ac adfywio, Graham Brown, fod Powys yn derbyn mwy o geisiadau am ffermydd gwynt na chynghorau sir eraill yng Nghymru yn sgil polisi Tan 8 Llywodraeth Cymru.

Cafodd polisi TAN 8 ei gyflwyno yn 2005 gan sefydlu saith ardal yng Nghymru a chanoli'r holl dyrbinau gwynt yn y safleoedd hynny.

Dywedodd Mr Brown fod yr awdurdod lleol "wedi gorfod clustnodi £2.8m i ariannu camau cyfreithiol i amddiffyn buddiannau'r cyngor sir".

Yn ôl y cyngor gallai mwy o ymholiadau cyhoeddus ddilyn oherwydd bod mwy na 12 cais i godi ffermydd gwynt ar y gweill.

Yn gynharach yr wythnos hon penderfynodd y cyngor sir wrthod dau gais i godi ffermydd gwynt ym Mhentre Tump ym Maesyfed a Mynydd-y-Cemaes ger Llanbrynmair.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi rhoi arian ychwanegol i Gyngor Powys i'w helpu i ddelio â cheisiadau ffermydd gwynt yn yr ardaloedd Tan 8 y tu mewn i'w ffiniau.

"Mae'r gefnogaeth hon ar gyfer y cynlluniau hynny sy'n cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU.

"Nid yw llywodraeth y DU yn cynnig adnoddau ychwanegol i awdurdodau cynllunio yn Lloegr felly mae Cyngor Powys yn cael mwy o gymorth ariannol na'r rhan fwyaf o gynghorau.

"Mae'n rhaid cofio mai Cyngor Powys sy'n gwbl gyfrifol am y penderfyniad i wrthwynebu'r ceisiadau ffermydd gwynt hyn.

"Roeddent yn ymwybodol o'r oblygiadau ariannol pan benderfynon nhw i wrthwynebu'r cynlluniau hyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.