Neil Taylor yn ymestyn ei gytundeb i aros gyda'r Elyrch tan 2016

Neil Taylor Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Neil Taylor ei anafu ar Fedi 1 a fydd o ddim yn chware tan y tymor nesaf

Mae amddiffynwr Cymru ac Abertawe Neil Taylor wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Elyrch.

Bydd yn aros gyda'r clwb tan fis Mehefin 2016.

Ond fydd o ddim yn cymryd rhan yng ngweddill y tymor ar ôl torri ei ffêr fis Medi.

Ond oherwydd bod Abertawe yn credu cymaint yn y chwaraewr 23 oed mae o wedi arwyddo cytundeb a fydd yn ymestyn ei gyfnod yn Stadiwm Liberty am flwyddyn ychwanegol.

Dywedodd ei fod wedi siarad am gytundeb newydd cyn iddo gael ei anafu.

"Unwaith mae rhywbeth fel yna yn digwydd mae'n gwneud i rywun feddwl a fydden nhw'n newid eu meddwl," meddai.

Seren ifanc

"Ond i fod yn deg gyda'r cadeirydd Huw Jenkins, fe ges i neges destun ganddo'r diwrnod ar ôl yr anaf yn dweud wrtha i i beidio â phoeni am y cytundeb.

"Maen nhw wedi cadw at eu gair.

"Dwi'n falch iawn ac mae'r clwb hefyd yn hapus."

Ymunodd Taylor ag Abertawe o Wrecsam ym mis Mehefin 2010.

Cyn ei anaf yn erbyn Sunderland ar Fedi 1 roedd eisoes wedi sefydlu ei hun fel un o sêr ifanc Cymru.

Dywedodd ei fod yn gweld ei ddyfodol hir-dymor gydag Abertawe.

"Mae fy nheulu yn hapus yma," meddai.

"Dwi'n mwynhau ein math o chwarae ac mae'r cefnogwyr wedi bod yn wych."

Dywedodd ei fod yn falch iawn o lwyddiant Yr Elyrch.

"Dwi'n ffyddiog y byddwn ni'n dal yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf," ychwanegodd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.