Adam Jones yn dychwelyd i fainc y Gweilch ac yn hwb i garfan Cymru

Adam Jones Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Doedd Adam Jones ddim yn rhan o garfan Cymru yng ngemau'r hydref

Mae 'na hwb i dîm rygbi Cymru wrth i'r prop Adam Jones ddychwelyd i fainc Y Gweilch ar gyfer eu gêm ddydd Sadwrn.

Fe fydd Y Gweilch yn croesawu Toulouse i Stadiwm Liberty yng Nghwpan Heineken.

Cafodd Jones, sydd wedi ennill 83 cap dros Gymru, anaf i'w ben-glin wrth i'r Gweilch golli o 39-22 yn erbyn Caerlŷr ym mis Hydref.

Roedd hyn yn golygu nad oedd ar gael i Gymru yng ngemau'r hydref.

Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn dioddef o anafiadau.

Fydd Rhys Priestland yn sicr ddim ar gael ar ôl iddo gael anaf i'w droed.

Gan ei fod allan am chwech mis mae'n bosib na fydd ar gael ar gyfer taith Cymru i Japan na'r Llewod i Awstralia.

Dywedodd Warren Gatland, hyfforddwr y Llewod ei fod yn siomedig ar ran Priestland na fydd yn cael y cyfle.

Mae disgwyl i Jamie Roberts a Leigh Halfpenny ddychwelyd i'w clybiau ym mis Ionawr ac ar gael i herio Iwerddon yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Chwefror 2.

Mae disgwyl hefyd y bydd Ian Evans ac Alun Wyn Jones yn holliach erbyn hynny hefyd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.