Wrecsam 3-2 Solihull Moors

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Mae Wrecsam wedi cyrraedd trydedd rownd Tlws yr FA, ar ôl i gic gosb gan Dean Keates sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Solihull Moors.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn annisgwyl gydag ergyd o bell gan Junior English.

Jay Harris a greodd y cyfle i Brett Ormerod ddod â Wrecsam yn gyfartal, dim ond i English daro eto wedi cic gornel.

Yr eilydd Adrian Cieslewicz sgoriodd drachefn i ddod â'r Dreigiau yn gyfartal eto, cyn i'r chwaraewr-rheolwr Andy Morrell gael ei lorio o fewn y cwrt cosbi, gyda Keates yn selio'r fuddugoliaeth.