Cerddwr mewn cyflwr difrifol iawn

Mae dyn 49 oed mewn cyflwr difrifol iawn yn dilyn damwain ym Mynwy nos Sadwrn.

Bu'r dyn mewn gwrthdrawiad â char wrth iddo geisio croesi ffordd yr A40 i gyfeiriad y gogledd wrth ymyl Pont Gwy am 6.45pm.

Aed ag ef i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni, cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r ysbyty yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.